Diweddariad coronafeirws: Dyfarnu cymwysterau galwedigaethol a thechnegol, a chymwysterau cyffredinol eraill yn haf 2020

Diweddariad coronafeirws: Dyfarnu cymwysterau galwedigaethol a thechnegol, a chymwysterau cyffredinol eraill yn haf 2020

Mae’r ddogfen ganllawiau i’w gweld ar-lein ac yn amlinellu cynlluniau Ofqual ar gyfer dyfarnu cymwysterau galwedigaethol a thechnegol a chymwysterau cyffredinol heblaw’r TGAU, UG a Safon Uwch yn yr haf. Mae’r ddogfen hefyd yn cynnwys gwybodaeth bellach am yr hyn sy’n ddisgwyliedig gan gyrff dyfarnu a’r hyn a ddylai canolfannau ddisgwyl iddo ddigwydd yn yr wythnosau i ddod.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar sut i weithredu, mae Ofqual yn dal i benderfynu ar ei bolisi terfynol ar gyfer dyfarnu’r cymwysterau hyn. Gallai’r manylion newid felly. Cysylltwn eto â’r canolfannau i roi arweiniad pellach unwaith y bydd y cyhoeddiadau hyn wedi’u gwneud.

Mae CBAC yn croesawu’r arweiniad hwn a byddwn yn parhau i gydweithio â’n rheoleiddwyr er mwyn sicrhau nad yw’r myfyrwyr dan anfantais a’u bod yn derbyn gradd deg yn dilyn canslo arholiadau’r haf. Gwerthfawrogwn eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.