Diweddariad Coronafeirws: canllawiau Gwybodaeth i Ganolfannau

Diweddariad Coronafeirws: canllawiau Gwybodaeth i Ganolfannau

Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi diweddaru’r Wybodaeth i Ganolfannau o ran cyflwyno Graddau Asesu Canolfannau. Mae’r diweddariad yn cyfeirio at bolisïau a gweithdrefnau arferol canolfannau a fydd yn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a chyngor ynghylch cadw cofnodion ysgrifenedig o’r prosesau a ddefnyddiwyd ganddynt wrth lunio graddau asesu canolfannau a gwybodaeth am drefn restrol.

Darparwyd arweiniad ar gyfer athrawon, yn y canllawiau pwnc-benodol a ddarparwyd ar ein Gwefan Ddiogel, ynghylch y dystiolaeth i’w hystyried wrth ffurfio barn am raddau asesu, gan gynnwys cysylltu ag athrawon arbenigol sy’n cefnogi dysgwyr y mae angen trefniadau mynediad arnynt. Bydd Pennaeth y Ganolfan yn cyflwyno datganiad i ni sy’n cadarnhau bod y graddau asesu canolfannau a’r wybodaeth am drefn restrol yn gywir. Mae manylion pellach i’w cael yn y canllawiau rydym yn eu darparu.

Darperir mwy o arweiniad yn fuan i egluro’r system a’r broses i’w defnyddio wrth gyflwyno graddau asesu canolfannau a gwybodaeth am drefn restrol.