Diweddariad am y Wybodaeth Ymlaen Llaw

Diweddariad am y Wybodaeth Ymlaen Llaw

Mewn llawer o bynciau addaswyd yr Asesiad Di-arholiad yn sylweddol ond nid oedd addasiadau ar gyfer yr unedau sy'n cael eu harholi. Gan ystyried y ffaith bod yr amharu'n parhau o ran addysgu a dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd hon, byddwn yn rhyddhau Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar dudalennau'r pynciau ar ein gwefan ar 7 Chwefror neu cyn hynny ar gyfer y pynciau ar y rhestr isod lle nad oes unrhyw drefniadau lliniaru ar gyfer yr unedau sy'n cael eu harholi.

Rhestr o'r Pynciau Gwybodaeth Ymlaen Llaw

  • TGAU Cyfrifiadureg Uned 1
  • TGAU Bwyd a Maeth Uned 1
  • TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gradd Unigol) Uned 1
  • TGAU Cerddoriaeth Uned 3
  • TGAU Addysg Gorfforol (gan gynnwys cwrs byr) Uned 1 ym mhob un
  • UG TGCh Gymhwysol Uned 1
  • UG Ffrangeg Uned 2
  • UG Almaeneg Uned 2
  • UG Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Uned 1
  • UG Cerddoriaeth Uned 3
  • UG Addysg Gorfforol Uned 1
  • UG Sbaeneg Uned 2
  • Safon Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Uned 3 ac Uned 5*
  • Safon Uwch Addysg Gorfforol Uned 3

Beth yw pwrpas a swyddogaeth y Wybodaeth Ymlaen Llaw hon?

  • Prif bwrpas y Wybodaeth Ymlaen Llaw hon yw rhoi gwybod beth y bydd rhai agweddau ar yr arholiad yn canolbwyntio arno er mwyn helpu dysgwyr i ganolbwyntio eu hadolygu; er enghraifft, rhywfaint o'r cynnwys, cyd-destunau, testunau gosod, testunau, is-destunau, themâu a sgiliau a asesir yn asesiadau 2022.
  • Gall union natur y Wybodaeth Ymlaen Llaw amrywio yn ôl y pwnc, gan ddibynnu ar natur a dyluniad manyleb y cymhwyster a'i asesiadau.
  • Ni fydd y wybodaeth hon ar lefel sy'n golygu y bydd modd ei defnyddio i ragfynegi cwestiynau na pharatoi atebion ac felly ni ddylid ei defnyddio i gyfyngu ar yr addysgu a'r dysgu. 
  • Gall canolfannau a dysgwyr ddefnyddio'r wybodaeth mewn ffordd hyblyg i gyflawni ei diben o ategu'r gwaith adolygu, ond ni ellir mynd â'r wybodaeth i mewn i arholiad.

Mae CBAC wedi addasu ei TGAU, UG a Safon Uwch yn 2022 er mwyn gwneud iawn am amser addysgu a dysgu a gollwyd ac unrhyw amhariad a all ddigwydd yn y dyfodol. Mae'r addasiadau hyn yn cydymffurfio â gofynion Cymwysterau Cymru.

Mae'r addasiadau a ryddhawyd yn gynharach eleni fel a ganlyn:

Gorffennaf 2021: Rhyddhawyd addasiadau i unedau Asesiad Di-arholiad a/neu unedau sy'n cael eu harholi ar gyfer pob cymhwyster CBAC TGAU a TAG. Mae'r addasiadau hyn yn:

  • symleiddio'r cynnwys i'w asesu yn 2022
  • lleihau gofynion yr Asesu Di-arholiad
  • cyflwyno dewis i asesiadau naill ai drwy gynnig dewis o unedau neu ddewis o gwestiynau mewn uned.

Medi 2021: Rhyddhawyd Gwybodaeth Ymlaen Llaw gennym mewn perthynas â nifer bach o gymwysterau yr oedd yn anodd darparu'r addasiadau a ddisgrifir uchod ar eu cyfer (gallwch weld y wybodaeth ar dudalennau eich pwnc lle y bo'n berthnasol).

Hydref 2021: Llaciwyd rheolaethau cynnal yr Asesiad Di-arholiad

Mewn rhai pynciau, fel arfer, byddwn ni hefyd yn darparu fformiwlâu ar y papur arholiad i ddysgwyr eu defnyddio yn ystod yr asesiad.