Diweddariad am Asesiadau Di-arholiad i ganolfannau yng Nghymru - Mawrth 2020

Diweddariad am Asesiadau Di-arholiad i ganolfannau yng Nghymru - Mawrth 2020

Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gau ysgolion a cholegau o ddydd Llun, 23 Mawrth ac i beidio â pharhau â’r arholiadau haf eleni, cytunodd Cymwysterau Cymru a CBAC ar drefniadau ar gyfer asesiadau dan reolaeth ac asesiadau di-arholiad ar gyfer cymwysterau TGAU, UG/Safon Uwch a'r Dystysgrif Her Sgiliau.

Gan nad yw canolfannau ar agor mwyach i'r mwyafrif o ymgeiswyr, ni fyddwn yn cynnal unrhyw ymweliadau pellach i asesu na chymedroli gwaith dysgwyr a gyflwynwyd ar gyfer cymwysterau sy'n cynnwys ymweliad canolfan.

Oherwydd amseru cau'r ysgolion, ni chafodd pob dysgwr gyfle i gwblhau'r gwaith ar asesiadau di-arholiad ac asesiadau dan reolaeth a asesir yn fewnol. Er tegwch i bob dysgwr, ni fydd CBAC yn cymedroli unrhyw unedau ar gyfer asesiadau di-arholiad na dan reolaeth ar gyfer cymwysterau TGAU, UG/Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau cyfres haf 2020.

Darparwyd gwybodaeth i'n holl ganolfannau â chofrestriadau ar gyfer y cymwysterau hyn o ran yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud ynghylch unrhyw waith ar asesiadau di-arholiad neu dan reolaeth y maent wedi'i farcio'n barod.

Rydym yn gweithio gyda chyrff Cymwysterau Cymru ac Ofqual a CCEA ar hyn o bryd ac yn ystyried sut y byddwn yn mynd ati i reoli'r amrediad o gymwysterau lefel mynediad, lefel 1/2 a lefel 3.

Bydd cyngor ac arweiniad pellach i'w weld ar dudalennau'r cymwysterau ar ein gwefan maes o law.