DIWEDDARIAD am asesiadau 2021 yng Nghymru
8/1/2020
Yn dilyn cyhoeddiad Cymwysterau Cymru, a'r effaith y bydd parhau â dysgu ar-lein yn ei chael ar ysgolion a cholegau, gallwn gadarnhau yn awr na fydd cyfnod asesu TGAU ac UG/Safon Uwch yn digwydd rhwng 22 Chwefror a 23 Ebrill.
Bydd Grŵp Ymgynghorol Dylunio a Chyflawni Llywodraeth Cymru yn mynd ati yn awr i ystyried beth fydd goblygiadau'r cyhoeddiad hwn ar ei gynigion ar gyfer asesiadau yn 2021. Mae'n bwysig, yn y cyfamser, i ddysgwyr yng Nghymru sy'n gwneud cymwysterau yn yr haf i barhau i ddal ati i astudio; mae dewis helaeth o adnoddau defnyddiol ar gael i ddysgwyr hefyd. Cawsant eu llunio'n benodol i helpu myfyrwyr wrth ddysgu gartref ac maent i'w cael ar wefannau CBAC, Hwb a BBC Bitesize.
Bydd CBAC yn parhau i fod ar gael i gefnogi athrawon. Byddwn yn cydweithio â'r Grŵp Ymgynghorol Dylunio a Chyflawni, ac â'r gymuned addysg ehangach, gyda'r nod o sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru sy'n gwneud eu cymwysterau eleni yn cael pob cyfle i ddangos yr hyn maen nhw'n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud.
Dylai'r ysgolion a'r canolfannau hynny sydd ag ymgeiswyr eisoes wedi cwblhau asesiadau mewnol ar gyfer ein cymwysterau Lefel 1/2 Dyfarniadau Galwedigaethol a Thystysgrif Her Sgiliau ac wedi'u cofrestru am gyfres Ionawr barhau i lwytho'r sampl gofynnol o waith i'w gymedroli. Dylai unrhyw ganolfannau â phryderon ynghylch cwrdd â therfynau amser cyflwyno gysylltu â'r swyddog pwnc neu'r isadran Llwybrau. Mae'r manylion cyswllt i'w gweld ar dudalen y pwnc perthnasol.
Hoffem sicrhau ein hathrawon, rhieni a dysgwyr ein bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru. Bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn gynted â phosibl.