Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) ar gael yn awr ar gyfer cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 2
Yn dilyn cyhoeddi ein manylebau wedi'u cymeradwyo ar gyfer yr ail don o'n cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig, ac yn unol â'r llinell amser y cytunwyd arni gyda Cymwysterau Cymru, rydym bellach wedi cyhoeddi'r Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) cysylltiedig. Bydd y rhain yn cefnogi athrawon a darlithwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer cyflwyno am y tro cyntaf o fis Medi 2026.
Gan gyfeirio at y cyhoeddiad hwn, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC:
![]() |
"Mae rhyddhau'r Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) yn gam pwysig er mwyn cefnogi ysgolion a cholegau wrth iddynt ddechrau cyflwyno'r cymwysterau newydd cyffrous hyn. Mae'r DAE yn cynnig rhagolwg o'r arddull asesu a'r cynlluniau marcio cyfatebol, gan helpu addysgwyr i baratoi at y gyfres asesu gyntaf. |
|
Mae'r deunyddiau hyn yn rhan o becyn cefnogi ehangach sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer pob cymhwyster. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys y Fanyleb wedi'i chymeradwyo, DAE, Canllawiau Addysgu, ac amrywiaeth o adnoddau digidol addasadwy rhad ac am ddim. Yn ogystal, bydd y pecyn yn cael ei gefnogi gan raglen o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol trylwyr a fydd ar gael wyneb yn wyneb i ysgolion a cholegau ar draws Cymru yn ystod tymor y gwanwyn. Gyda'i gilydd, bydd y ddogfennaeth, adnoddau a Dysgu Proffesiynol yn cynorthwyo athrawon i gyflwyno'r cymwysterau yn effeithiol gan gyd-fynd â nodau Cwricwlwm i Gymru." |
|
Mae Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) yn dangos sut bydd yr asesiad yn edrych cyn y bydd unrhyw ddeunyddiau asesu byw ar gael. Cynhyrchir DAE i gefnogi athrawon, darlithwyr a dysgwyr i ddeall sut mae cynnwys y fanyleb yn gallu cael ei asesu. Maen nhw'n darparu cwestiynau enghreifftiol a chynlluniau marcio y gall athrawon, darlithwyr a dysgwyr eu defnyddio wrth baratoi at yr asesiad.
Mae'r DAE ar gael i'w lawrlwytho o'r tudalennau pwnc canlynol:
TGAU
Cymhwyster nad yw'n TGAU
Defnyddio DAE
Rydym yn argymell bod athrawon a darlithwyr yn defnyddio'r dewis helaeth o gefnogaeth a fydd ar gael wrth gyflwyno ein cymwysterau. Mae hyn yn cynnwys ein Manyleb, DAE, Canllawiau Addysgu ac adnoddau.
Gellir defnyddio deunyddiau asesu enghreifftiol fel rhan o weithgareddau wedi’u cyfeirio gan athrawon, neu weithgareddau wedi’u cyfeirio gan ddysgwyr. Gellir eu defnyddio fel ymarfer ar gyfer arholiad unwaith bydd y dysgu ar gyfer y testun neu'r uned wedi'i gwblhau. Gellir hefyd eu defnyddio fel canllaw ar gyfer athrawon neu ddysgwyr i greu eu cwestiynau eu hunain. Bydd hyn yn gwerthuso'r dysgu ac yn nodi'r meysydd i wella. Mae'n bwysig iawn i ddeall mai pwrpas y DAE yw dangos sut gall asesiad edrych mewn cyfres arholiadau'r dyfodol. Felly, dylid ei ddefnyddio unwaith y bydd y dysgu wedi'i gwblhau.
Yn unol ag amserlen Cymwysterau Cymru, byddwn yn cyhoeddi Canllawiau Addysgu ym mis Ionawr; bydd y Canllawiau hyn yn cefnogi athrawon wrth baratoi at asesiad ac yn nodi'r cyfleoedd i gynnwys agweddau ar y Cwricwlwm i Gymru wrth gyflwyno'r cymwysterau.
Cefnogaeth ychwanegol
Byddwn yn darparu modiwl dysgu cyfunol 'Arweiniad i'r DAE' ar gyfer athrawon a darlithwyr, a hyfforddiant wyneb yn wyneb fydd yn cynnwys dulliau addysgu ac asesu posibl ar gyfer pob cymhwyster.
Cyflwyniad wedi'i recordio ymlaen llaw yw’r arweiniad i'r DAE, sydd wedi'i gynllunio i gefnogi dysgwyr, athrawon a darlithwyr i ddeall strwythur asesiadau di-arholiad a phapurau cwestiynau. Bydd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar y mathau o gwestiynau, amcanion asesu a dulliau marcio. Ceir mynediad ato drwy wefan ddiogel Porth CBAC yn nhymor yr haf 2026.
Yn ogystal, mae gennym Gwestiynau Cyffredin penodol sydd ar gael yma.
Adnoddau addasadwy RHAD AC AM DDIM a Dysgu Proffesiynol
I gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau hyn, byddwn yn cynhyrchu pecyn o adnoddau digidol addasadwy RHAD AC AM DDIM. Byddwn yn dechrau cyhoeddi'r deunyddiau o ddiwedd tymor yr hydref, mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy'r cyhoeddiad canlynol.
Ochr yn ochr â'r adnoddau hyn, rydyn ni hefyd yn cyflwyno amserlen bwrpasol o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r cyrsiau cenedlaethol hyn sy'n RHAD AC AM DDIM ar gael i ganolfannau ledled Cymru. Bydd pob cwrs yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr pwnc hyfforddedig a fydd yn rhoi cipolwg ar bob cymhwyster ac yn cynnig cyngor ac arweiniad pragmataidd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, gan gynnwys ein Sioeau Teithiol Ledled Cymru ar gael yma.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.
