Delio â Straen yn y dyfnod cyn diwrnod y canlyniadau

P'un a ydych chi'n aros am eich canlyniadau TGAU, Safon Uwch neu alwedigaethol, mae'n hollol normal teimlo'n nerfus, dan straen neu fel bod pethau yn eich llethu chi ar hyn o bryd. Gall y cyfnod cyn Diwrnod y Canlyniadau deimlo'n ddwys, ond nid ydych chi ar eich pen eich hun. Bob blwyddyn, mae miloedd o fyfyrwyr ledled y wlad yn mynd drwy'n union yr un peth, ac mae yna ffyrdd i'w gwneud hi'n haws i chi'ch hun. 

I'ch helpu drwy'r cyfnod anodd hwn, fe wnaethom siarad â Dr Rachel Dodge, Rheolwr Datblygu Cymwysterau (a PhD mewn Seicoleg – sy'n canolbwyntio ar lesiant myfyrwyr). Rhannodd hi rywfaint o gyngor ymarferol ar beth yw straen, a sut gallwch ei reoli yn y dyddiau cyn Diwrnod y Canlyniadau. 

 

Felly, beth yw straen? 

Yn ôl y GIG, teimlad o fod dan ormod o bwysau meddyliol neu emosiynol yw straen. Pan fydd y pwysau hwnnw'n dod yn ormod ac rydych chi'n dechrau teimlo fel na allwch ymdopi, gall ddechrau effeithio arnoch chi'n gorfforol, yn emosiynol ac yn feddyliol. 

 

Arwyddion y gallech fod dan straen 

Nid yw straen bob amser yn ymddangos yn y ffyrdd y byddech chi'n ei ddisgwyl. Mae'n wir y gall achosi i chi deimlo panig neu bryder, ond gall hefyd effeithio ar eich cwsg, eich gallu i ganolbwyntio, a hyd yn oed eich corff. Meddyliwch am arwyddion fel calon yn rasio, coesau sigledig neu densiwn yn eich stumog. 

Mae adnabod yr arwyddion hyn yn gynnar yn rhoi gwell siawns i chi eu rheoli'n effeithiol. 

 

Sut i ymdopi â straen yn y cyfnod cyn diwrnod y canlyniadau 

Dyma ychydig o bethau syml y gallech chi eu gwneud i helpu: 

1. Anadlu (yn llythrennol) 

Mae'n swnio'n sylfaenol, ond gall anadlu'n ddwfn wir helpu. Os byddwch chi'n dechrau teimlo'n bryderus, anadlwch yn ddwfn ac yn araf. I mewn drwy eich trwyn, allan drwy eich ceg. Mae'n helpu i dawelu eich system nerfol ac yn rhoi eiliad i chi ddechrau o'r newydd. 

2. Rhoi cynnig ar ymwybyddiaeth ofalgar neu fyfyrdod 

Gall apiau fel Headspace, Calm neu hyd yn oed fideos byr sy'n eich tywys drwy fyfyrdodau ar YouTube helpu i dawelu eich meddyliau. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn hyfforddi eich ymennydd i ganolbwyntio ar y foment bresennol, yn hytrach nag ymgolli mewn meddylfryd o "beth os". 

3. Defnyddio mantras cadarnhaol 

Gall dweud wrthych eich hun "Rydw i wedi gwneud fy ngorau glas" neu "Galla i ymdopi â beth bynnag sy'n digwydd" deimlo'n lletchwith ar y dechrau, ond gall datganiadau cadarnhaol newid eich meddylfryd. Ysgrifennwch y rhain i lawr, dywedwch nhw’n uchel, neu rhowch nhw ar eich drych i'ch atgoffa. 

4.  Neilltuo amser ar gyfer y pethau rydych chi'n eu mwynhau 

Mae'n iawn gwylio Netflix, chwarae gemau, mynd am dro, neu dreulio amser gyda ffrindiau. Mae gwneud pethau sy'n eich gwneud chi'n hapus yn helpu i dynnu eich meddwl oddi ar ganlyniadau ac yn rhoi seibiant mawr ei angen ar eich ymennydd. Hefyd, cofiwch fwyta'n dda, yfed digon a thrïo cadw trefn ar eich patrwm cysgu. 

 

Siaradwch amdano 

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi, siaradwch â rhywun. Mae'n debyg bod eich ffrindiau yn teimlo'r un ffordd, a gall sgwrsio amdano wneud gwahaniaeth enfawr. Gallwch chi hefyd siarad â rhiant, gofalwr neu athro os oes angen cefnogaeth ychwanegol arnoch. 

A chofiwch, nid yw eich canlyniadau yn diffinio eich gwerth. Mae yna bob amser opsiynau a phobl a all eich helpu i ddarganfod eich camau nesaf, waeth beth sy'n digwydd ar Ddiwrnod y Canlyniadau. 

 

Adnoddau Defnyddiol 

Os oes angen mwy o gyngor neu gefnogaeth arnoch, edrychwch ar y safleoedd hyn: 

  • Young Minds – Cefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc 

  • WhatUni – Cyngor ar ddewisiadau prifysgol a chlirio 

  • The Student Room – Fforymau llawn myfyrwyr sy'n rhannu eu profiadau a'u hawgrymiadau 

 

Mi fyddwch chi'n iawn. Gall Diwrnod y Canlyniadau deimlo fel taith wyllt, ond rydych chi'n gryfach nag yr ydych chi'n meddwl a beth bynnag yw'r canlyniad, dim ond dechrau eich pennod nesaf ydyw.