Dathlu talent Dylunio a Thechnoleg yng Ngwobrau Rhagoriaeth y Gymdeithas Dylunio a Thechnoleg 2025
Roedd CBAC yn falch o noddi’r Wobr Rhagoriaeth ar gyfer y categori Disgybl Rhagorol: 16-18 oed yng Ngwobrau Rhagoriaeth y Gymdeithas Dylunio a Thechnoleg 2025, a gynhaliwyd ddydd Gwener, 10 Hydref ym Mhrofiad Ymwelwyr Ffatri Triumph yn Hinckley.
Eleni, daeth y gymuned ddylunio a thechnoleg at ei gilydd i ddathlu'r 25ain noson wobrwyo flynyddol ac anrhydeddu'r rheini sy'n gwneud dylunio a thechnoleg yn bwnc mor ysbrydoledig, sy’n newid cymaint o fywydau.
Wedi'i noddi gan CBAC, roedd y Wobr Rhagoriaeth ar gyfer Disgybl Rhagorol: 16-18 oed yn cydnabod myfyrwyr rhagorol sy'n gallu dangos creadigrwydd, sgiliau technegol, ac arweinyddiaeth mewn dylunio a thechnoleg. Rydym yn falch iawn o longyfarch yr enillydd eleni: Pacha Pritchard, myfyriwr yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. Mae Pacha wedi cyrraedd rownd derfynol y DU bedair gwaith ar gyfer F1 mewn Ysgolion, a chyrhaeddodd Rowndiau Terfynol y Byd yn 2024. Mae wedi ennill Gwobrau Gold Teen Tech a CREST, gan lwyddo i gyrraedd rownd derfynol LEGO League UK ddwywaith, a chafodd hi ei henwi'n Beiriannydd Ifanc y Flwyddyn yn The Big Bang Fair. Tu hwnt i'r cystadlaethau, cyflwynodd Pacha brif araith yn Senedd y DU, gan ysbrydoli eraill ynghylch cynaliadwyedd a pheirianneg a llwyddo i annog mwy o fenywod ifanc i ymgymryd â Dylunio a Thechnoleg ar lefel TGAU a Safon Uwch. Mae ei rhagoriaeth dechnegol, ei chreadigrwydd a'i harweinyddiaeth yn ei gwneud hi'n ddisgybl rhagorol ac yn ysbrydoliaeth i'r genhedlaeth nesaf.
Yn sôn am noddi’r wobr, dywedodd Jason Cates, Swyddog Pwnc Dylunio a Thechnoleg:
“Roeddem yn falch iawn o gefnogi Gwobrau Rhagoriaeth y Gymdeithas Dylunio a Thechnoleg 2025 ac i ddathlu talent eithriadol myfyrwyr Dylunio a Thechnoleg.
Roedd noddi'r categori hwn yn y gwobrau yn gyfle gwych i dynnu sylw at ymdrechion rhyfeddol myfyrwyr. Llongyfarchiadau enfawr i Pacha ar ei chyflawniad anhygoel - mae hi wir yn enghraifft ysbrydoledig o sut y gall penderfynoldeb a chreadigrwydd arwain at lwyddiant."
Llongyfarchiadau unwaith eto i Pacha Pritchard, yr holl gystadleuwyr a gyrhaeddodd y rownd derfynol a'r enillwyr a ddathlwyd yng Ngwobrau Rhagoriaeth y Gymdeithas Dylunio a Thechnoleg eleni!
Mae rhagor o wybodaeth am Wobrau Rhagoriaeth y Gymdeithas Dylunio a Thechnoleg ar gael yma. Ewch i'n tudalen we Cymwysterau i ddysgu mwy am ein cymhwyster TGAU newydd mewn Dylunio a Thechnoleg.