
Cynaliadwyedd ar Waith – Beth yw barn athrawon?
Yn 2024, lansiodd CBAC gyfres o gymwysterau Cynaliadwyedd cyntaf y DU, a gynlluniwyd i baratoi dysgwyr â'r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i weithio swyddi 'sero net' y dyfodol.
![]() |
Ar hyn o bryd mae Donna Gwilliam, Darlithydd yng Ngrŵp Colegau NPTC (campws Castell-nedd) yn cyflwyno’r cymhwyster Lefel 2 Cynaliadwyedd ar Waith ac yn bwriadu cynnig unedau o’r cymhwyster Cynaliadwyedd Mewn Cyd-destun flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn caniatáu i'w dysgwyr weithio tuag at gymhwyster uwch. Fe wnaethom ofyn i Donna rannu ei phrofiad o gyflwyno cyfres Cynaliadwyedd CBAC hyd yma: |
Beth wnaeth eich denu chi at gyflwyno ein cymhwyster Lefel 2 mewn Cynaliadwyedd ar Waith?
Yn y coleg, rydym yn cynnig y cwrs 'Cyflwyniad i UG' ar gyfer y dysgwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion i gofrestru ar gyfer ein cymwysterau Lefel 3. Mae'r rhaglen yn flwyddyn o hyd ac yn caniatáu dysgwyr i weithio tuag at gyflawni cyfuniad o gymwysterau Lefel 1/2 a chymwysterau TGAU er mwyn bodloni'r meini prawf cofrestru angenrheidiol.
Pan ddaethom yn ymwybodol o gymhwyster 'Cynaliadwyedd ar Waith' CBAC, fe wnaethom benderfynu ei bod yn ychwanegiad da i'r cwrs 'Cyflwyniad i UG'. Mae'r cymhwyster yn hygyrch ac yn heriol mewn ffordd briodol, ac yn cynnwys dull asesu sy'n cyfateb yn dda ag anghenion ein dysgwyr.
Ar ben hynny, bydd cwblhau'r cwrs hwn yn helpu i roi sylfaen hanfodol i ddysgwyr i symud ymlaen yn hyderus at eu llwybrau Lefel 3 dewisol.
Sut mae eich dysgwyr wedi ymateb i'r cymhwyster?
Rydym wedi derbyn ymateb ardderchog gan ddysgwyr, sydd wedi ymgysylltu'n agos gyda chynnwys y cwrs, ac wedi gofyn cwestiynau meddylgar drwy gydol eu hastudiaethau. Mae'r lefel hon o ymgysylltu wedi'i adlewyrchu'n glir yn ansawdd eu gwaith, gyda dysgwyr yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau sy'n dangos y camau cyntaf a pherchnogaeth o'u dysgu.
Yn ogystal, mae'r dysgwyr wedi gallu mynegi sut mae'r cwrs yn cefnogi eu huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.
Sut mae CBAC wedi eich cefnogi i gyflwyno'r cymhwyster?
Yn ogystal â mynychu'r digwyddiadau Dysgu Proffesiynol, rwyf wedi cadw cysylltiad rheolaidd â Swyddog Pwnc CBAC, Laura Callaghan, sydd wedi rhoi cyngor ac arweiniad gwerthfawr pan fo angen.
Mae ein dysgwyr hefyd wedi gwneud defnydd llawn o'r adnoddau rhad ac am ddim sydd ar gael i gefnogi eu hastudiaethau.
Ar y cyfan, mae cyflwyno’r cymhwyster hwn wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n edrych ymlaen at wneud yr un peth eto flwyddyn nesaf.
Os hoffech chi ddechrau cyflwyno'r cymhwyster hwn, cysylltwch â ni dyfodol@cbac.co.uk. Gallwch chi hefyd danysgrifio i gael y newyddion diweddaraf.