Cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig – ymgynghoriadau ar gael nawr

Cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig – ymgynghoriadau ar gael nawr

Wrth i ni fynd ati i gyd-awduro cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau perthynol i ddysgwyr ledled Cymru, mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr ymgynghoriad ar ein cynigion ar lefel uchel o ran strwythur a ffocws asesiad gyfer y pynciau isod bellach yn fyw.

Dywedodd Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu Cymwysterau wrth sôn am y datblygiad cyffrous hwn, “Rydym wedi cyrraedd carreg filltir allweddol wrth greu ein cymwysterau cynhwysol, deniadol a dwyieithog newydd. Rydym wedi ymgysylltu â thrawstoriad eang o randdeiliaid drwy ein Grwpiau Cynghori ar Ddatblygu, ond mae'r ymgynghoriadau hyn yn cynnig cyfle pwysig i fwy o aelodau'r gymuned addysg wneud sylw ar ein hamlinelliadau cychwynnol ar gyfer pynciau.

Mae'r amlinelliadau cymwysterau yn hynod bwysig, gan y bydd y rhain yn arwain ein gwaith datblygu ar gyfer y cymwysterau hyn yn y dyfodol. Rwy'n annog pawb i roi adborth ar ein cynigion, er mwyn sicrhau ein bod yn casglu amrywiaeth eang o safbwyntiau, a fydd yn ein galluogi i greu cymwysterau sy'n addas ar gyfer dysgwyr ledled Cymru.”

Mae'r ymgynghoriad yn berthnasol i bynciau yng ngham cyntaf ein datblygiad a fydd ar gael i'w addysgu o fis Medi 2025.

Ar gyfer pob pwnc, rydym wedi datblygu amlinelliad o’r cymhwyster sy’n adeiladu ar y Meini Prawf Cymeradwyo a luniwyd gan Cymwysterau Cymru. Yn seiliedig ar yr adborth a gesglir, bydd ein Tîm Datblygu Cymwysterau yn gweithio gyda'n Swyddogion Pwnc i adolygu a chyhoeddi'r amlinelliadau terfynol ym mis Ionawr 2024.

Rydym yn chwilio am adborth o bob rhan o'r gymuned addysg, gan gynnwys cydweithwyr addysgu, penaethiaid canolfannau, rhieni/gwarcheidwaid a dysgwyr. Mae'r ymgynghoriadau'n cynnwys dau gam, a amlinellir isod:

Cymerwch ran – cwblhewch ein hymgynghoriadau heddiw

Mae ymgynghoriadau ar gyfer amlinelliadau cymwysterau ar gael i’r pynciau canlynol nawr:

  • Busnes
  • Celf a Dylunio
  • Cyfrifiadureg
  • Cymraeg Craidd
  • Cymraeg Craidd Ychwanegol
  • Daearyddiaeth
  • Drama
  • Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 13 Tachwedd 2023. I gael mynediad i'n hymgynghoriadau, ewch i'r dudalen we ganlynol.

Ymgynghoriadau newydd

Mae ail rownd o ymgynghoriadau ar gyfer y pwnc canlynol nawr yn fyw a bydd yn cau ar 20 Tachwedd 2023.

  • Astudiaethau Crefyddol
  • Bwyd a Maeth
  • Cerddoriaeth
  • Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth (unigol a dwyradd)
  • Hanes
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Saesneg Iaith a Llenyddiaeth (unigol a dwyradd)
  • Y Gwyddorau (dwyradd)

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 20 Tachwedd 2023. I gael mynediad i'n hymgynghoriadau, ewch i'r dudalen we ganlynol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost at datblygucymwysterau@cbac.co.uk