Cymwysterau Cymru yn cadarnhau canslo arholiadau unedau TGAU mis Ionawr

Cymwysterau Cymru yn cadarnhau canslo arholiadau unedau TGAU mis Ionawr 2021

24/11/2020

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y bydd arholiadau mis Ionawr TGAU TGCh, TGAU Llenyddiaeth Saesneg a TGAU Llenyddiaeth Gymraeg yn cael eu canslo.

Bydd arholiadau Ionawr sy'n cynnig cyfle ailsefyll olaf ar gyfer yr hen gymwysterau TGAU yn digwydd yn ôl yr amserlen; bydd arholiadau hefyd yn digwydd ym mis Ionawr ar gyfer yr holl gymwysterau Tystysgrif Lefel Mynediad, Lefel 1/2 Dyfarniadau a Thystysgrifau, a Lefel 2 a 3 Iechyd, Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yng Nghymru.

Rydym, fel bwrdd arholi, wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan i ddefnyddio dull teg a chytbwys ar gyfer dysgwyr. Bydd angen i ni felly ystyried yn ofalus pa effaith y caiff y penderfyniad hwn ar ein prosesau.

Hoffem sicrhau ein hysgolion a cholegau y byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â'r Grŵp Ymgynghorol Dylunio a Chyflawni a chorff Cymwysterau Cymru i wneud y trefniadau terfynol ar gyfer darpariaeth cymwysterau haf 2021.