Cymorth i Fyfyrwyr ar ôl y Canlyniadau Safon Uwch

Cymorth i Fyfyrwyr ar ôl y Canlyniadau Safon Uwch

Os ydych chi wedi casglu eich canlyniadau Safon Uwch ac yn siomedig gyda'r canlyniad, darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy am yr opsiynau a'r camau nesaf sydd ar gael i chi o hyn ymlaen.

 

Peidiwch â mynd i banig

Efallai ei fod yn teimlo fel y peth gwaethaf yn y byd ar hyn o bryd, ond bydd y teimlad hwnnw'n tawelu cyn bo hir. Eisteddwch yn dawel am ychydig, anadlwch yn ddwfn - mae angen meddwl clir arnoch chi; os yw'n bryd gwneud penderfyniadau ynglyn â'ch dyfodol, bydd yn llawer haws gwneud hyn os bydd eich meddwl yn dawel.

 

Ailsefyll

Ailsefyll yw'r dewis mwyaf amlwg i'r rhai na chawsant y graddau yr oeddent yn eu disgwyl ond nad ydynt am newid y cynlluniau sydd ganddynt ar y gweill yn ormodol. Nid yw hyn yn benderfyniad i'w wneud yn fyrbwyll fodd bynnag, ystyriwch y graddau yr ydych am eu gwella ac a oes gwir angen i chi ailsefyll ar gyfer eich camau nesaf (h.y. meddyliwch a yw eich cam nesaf o'ch dewis yn gofyn i chi gael gradd well yn y pynciau rydych chi'n ystyried eu hailsefyll).

 

Ail-farcio

Os credwch ei bod yn angenrheidiol, efallai y byddwch am ystyried yr amrywiaeth o wasanaethau ar ôl y canlyniadau swyddogol sydd gennym. Mae'r rhain yn cynnwys cynnal adolygiad o'r marcio neu ail-wiriad clerigol o'ch sgriptiau arholiad. Cofiwch fod yn rhaid i unrhyw geisiadau am wasanaethau ar ôl y canlyniadau gael eu cyflwyno drwy'r Swyddog Arholiadau yn eich ysgol.

 

Clirio

Os na wnaethoch chi fodloni amodau eich cynigion prifysgol peidiwch â digaloni, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais drwy'r drefn Glirio. Mae'r broses o Glirio yn eich galluogi i ddod o hyd i brifysgol/coleg arall sydd â lleoedd gwag ar eu cyrsiau a allai ystyried derbyn eich canlyniadau a gadarnhawyd. Efallai nad yw'r opsiwn hwn yn addas ar gyfer y rhai a oedd â'u golwg ar Brifysgol benodol ac nad ydynt yn barod i astudio yn rhywle arall, ond i'r rhai sy'n agored i'r posibilrwydd o astudio yn rhywle arall mae hyn yn ffordd wych o osgoi colli allan ar fynychu'r brifysgol eleni! Ewch i wefan UCAS i gael rhagor o wybodaeth am Glirio.

 

Blwyddyn allan

Un peth pwysig i'w gofio ar ôl casglu eich canlyniadau yw, er y bydd llawer o weithgarwch yn digwydd o'ch cwmpas, nid oes angen i chi deimlo o dan bwysau i wneud unrhyw benderfyniadau ar unwaith. Os ydych chi'n ansicr a ydych chi am ailsefyll eich arholiadau, am fynd i'r brifysgol neu am gael swydd amser llawn, mae gennych y dewis o hyd i bwyllo a meddwl am beth yn union yr ydych eisiau ei wneud. Gall hyn olygu cymryd blwyddyn i ffwrdd i deithio ac ennill arian mewn rhan arall o'r byd, neu gall olygu cael swydd yn nes at adref tra byddwch chi'n cymryd yr amser i feddwl am eich camau nesaf. Y naill ffordd neu'r llall, ni ddylech deimlo dan bwysau i wneud rhywbeth nad ydych chi'n siŵr sy'n iawn i chi.

 

Os oes angen arweiniad pellach arnoch chi ar yr opsiynau a all fod ar gael i yn awr, yna siaradwch â'ch athrawon a'ch rhieni/gwarcheidwaid. Byddan nhw'n gallu cynnig cymorth a'ch cyfeirio at yr asiantaethau perthnasol a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth fanylach i chi!