
Cymerwch ran yn ein Cynhadledd: Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Addysg Sgrin
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod CBAC yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Ravensbourne i gyflwyno cynhadledd arloesol ar y cyd am 'AI mewn Addysg Sgrin'.
![]() |
Jenny Stewart, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm CBAC: "Mae'r gynhadledd hon yn gyfle gwych i addysgwyr ffilm a’r cyfryngau ar bob lefel archwilio sut mae AI yn effeithio ar y diwydiannau sgrin, a sut gallwn ddefnyddio dulliau AI gyda'n dysgwyr i sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol mewn diwydiannau sgrin." |
Mae'r gynhadledd yn cael ei threfnu gan Laurel Parker, Uwch Ddarlithydd, Adran Ffilm, Prifysgol Ravensbourne, Hilary Jaques, Swyddog Pwnc Astudio'r Cyfryngau, CBAC, a Jenny Stewart, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm, CBAC.
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Ravensbourne rhwng 31 Mawrth a 1 Ebrill 2026.
Cymerwch ran – galwad am bapurau
Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn trawsnewid y diwydiannau sgrin ar bob lefel – o ysgrifennu ar gyfer y sgrin ac effeithiau gweledol i farchnata, dosbarthu a dadansoddi cynulleidfa. Wrth i AI ail-lunio llifoedd gwaith, estheteg a rolau o fewn ffilm, teledu a chyfryngau rhyngweithiol, mae addysgwyr sgrin yn wynebu cwestiynau brys ynghylch sut i baratoi dysgwyr ar gyfer tirwedd greadigol a phroffesiynol sy'n esblygu'n gyflym.
Rydym yn gwahodd cynigion ar gyfer papurau, paneli, gweithdai, a deialogau sy'n archwilio effaith a goblygiadau AI ar draws pob lefel o addysg sgrin yn y DU, o addysg gynradd i addysg ôl-raddedig. Nod y gynhadledd hon yw meithrin perthynas ystyrlon rhwng addysgwyr, ymchwilwyr, a gweithwyr proffesiynol sgrin, gan sicrhau bod ein cwricwla a'n fframweithiau allweddol yn parhau i fod yn ddynamig, perthnasol a blaengar.
Rydym yn croesawu cyflwyniadau gan addysgwyr, ymchwilwyr ac ymarferwyr sy'n gweithio ar bob lefel – o Lefel 2 i ôl-raddedig - ar draws addysg bellach ac uwch, academïau sgrin, ac amgylcheddau hyfforddiant galwedigaethol.
Rydym yn annog cyflwyniadau cydweithredol yn arbennig sy'n pontio'r bwlch rhwng addysg a diwydiant, yn ogystal â chyfraniadau gan leisiau sydd heb eu cynrychioli mewn AI ac astudiaethau sgrin.
Themâu a awgrymir:
- Addysgu ac ymgorffori llythrennedd AI mewn cwricwla ffilm a'r cyfryngau
- Amodau teg: Asesiad teg yn oes AI
- Moeseg, Awduraeth ac Awtomeiddio: Pwy sy’n berchen ar y gwaith?
- AI mewn ysgrifennu ar gyfer y sgrin, Golygu, Cyn-gynhyrchu ac Ôl- Gynhyrchu
- Safbwyntiau ar Integreiddio AI i ddiwydiannau sgrin
- Paratoi myfyrwyr ar gyfer rolau creadigol estynedig AI
- Dulliau beirniadol a diwylliannol o ddefnyddiol AI mewn Cyfryngau Sgrin
- Polisi, rheoleiddio, a dyfodol llafur creadigol yn oes AI
- Ymchwil greadigol sy'n seiliedig ar ymarfer gan ddefnyddio dulliau AI
Canllawiau Cyflwyno I wneud cyflwyniad, cyflwynwch y canlynol:
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: Dydd Gwener 26 Medi 2025 Hysbysiad o dderbyn: Dydd Gwener 31 Hydref 2025 Cyflwyno drwy e-bost: aiscreenedu@gmail.com |
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio'n feirniadol ac yn greadigol beth mae'n ei olygu i addysgu, dysgu a chreu gydag AI yn oes trawsnewid cyfryngau sgrin.
Am ragor o wybodaeth ac ymholiadau, cysylltwch ag: aiscreenedu@gmail.com