Cyhoeddi Rhestr Fer 7fed Seremoni Gwobrau Delwedd Symudol

Cyhoeddi Rhestr Fer 7fed Seremoni Gwobrau Delwedd Symudol

Rydym yn falch o gyhoeddi'r rhestr fer ar gyfer rownd derfynol seithfed seremoni flynyddol Gwobrau Delwedd Symudol CBAC Eduqas.

Mae'r gystadleuaeth yn cydnabod y lefelau ysbrydoledig o gyflawniad myfyrwyr ym maes cynhyrchu Astudiaethau Ffilm ac Astudio'r Cyfryngau ac mae wedi cael cefnogaeth gan unigolion blaenllaw o fewn y diwydiant ffilm. Mae'r seremoni'n dathlu'r gwaith gorau sydd wedi'i greu gan fyfyrwyr rhwng 14 a 19 oed mewn ysgolion a cholegau ar draws y DU. Eleni, rydym wedi croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr a gwblhaodd eu gwaith ond nad oedden nhw'n gallu cyflwyno'r asesiad di-arholiad i'w asesu yn 2020 ar ôl canslo'r asesiadau.

Mae'r rhestr fer lawn i'w gweld ar-lein.

Wrth sôn am y rhestr fer, dywedodd Rebecca Ellis, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm CBAC/Eduqas:

"Roedd yn bleser gweld cymaint o geisiadau cynhyrchu anhygoel gan fyfyrwyr na welsom ni eu gwaith yr Haf diwethaf oherwydd Covid. Mae cyflawniadau technegol a thalentau creadigol yr ymgeiswyr hyn wedi bod yn rhagorol eleni.Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddathlu'r gwaith hwn gyda'r myfyrwyr a'r athrawon yn ein seremoni rithwir ym mis Chwefror."

Seremoni Wobrwyo
Ar gyfer pob categori, bydd gwaith y rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer derfynol yn cael ei ddatgelu yn ein seremoni Gwobrau Delwedd Symudol rithwir gyntaf erioed! Cyhoeddir enillwyr y 5 categori ddydd Llun 15 Chwefror rhwng 5.30 pm a 7.00 pm a byddwn yn cael cyfraniadau gan westeion arbennig iawn yn y diwydiant.

Noddwyr
Hoffem ddiolch i'n noddwyr y British Film Institute, Golley Slater, Castell Howell Foods, Illuminate Publishing, KK Solutions, a My Company Clothing am eu cefnogaeth barhaus.

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwobrau Delweddau Symudol, ewch i: https://www.gwobraudelweddsymudol.co.uk