Cyflawni Gwneud-i-Gymru gyda'n gilydd: Cynnydd Ton 2 a cherrig milltir yr haf 

Wrth i dymor academaidd olaf y flwyddyn dynnu i'w derfyn, rwy'n falch bod dysgwyr ledled Cymru unwaith eto wedi cael cyfleoedd ystyrlon i ddangos eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth yn ein harholiadau haf diweddar. Mae ein timau o arholwyr hyfforddedig bellach yn brysur yn marcio miloedd o sgriptiau, gan sicrhau bod dysgwyr yn derbyn graddau dilys, dibynadwy a theg ym mis Awst.  

Mae taith ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru yn parhau. Ar ôl lansio ein cymwysterau Ton 1 yn llwyddiannus, mae'n bleser mawr gennyf allu rhannu gyda chi bod ein manylebau drafft Ton 2 ar gael erbyn hyn – a hynny felly yn garreg filltir arwyddocaol arall yn y gwaith o lunio cymwysterau sydd wir yn adlewyrchu anghenion a dyheadau dysgwyr yng Nghymru.  

Buan iawn y daw mis Medi, felly roeddwn am eich sicrhau bod ein hymrwymiad i'ch cefnogi wrth i chi gyflwyno ein cymwysterau Ton 1 yn un cadarn. Rwy'n gwybod bod paratoi ar gyfer y cymwysterau newydd hyn wedi bod yn heriol gyda mwy byth o heriau i ddod wrth ddechrau eu cyflwyno am y tro cyntaf, ond rydym yma yn barod i'ch cefnogi chi.   

Hoffwn ddiolch yn fawr i chi am fod mor barod i gymryd rhan yn ein digwyddiadau Dysgu Proffesiynol ledled Cymru ac i'ch atgoffa bod gweithgareddau Dysgu Proffesiynol ychwanegol ar gael i'ch cefnogi wrth i chi gyflwyno ein cymwysterau Ton 1. Yn y cyfamser, mae gwaith ein Tîm Adnoddau Digidol yn mynd rhagddo'n dda gyda'r nod o gyhoeddi'r gyfres lawn o adnoddau addasadwy RHAD AC AM DDIM erbyn diwedd Awst. Bydd 325 o becynnau yn barod felly ar gyfer eich taith addysgu. 

Ymlaen wedyn at y cymwysterau Ton 2. Mae ein Tîm Dysgu Proffesiynol wedi paratoi rhaglen gyflawn o gyfleoedd hyfforddi RHAD AC AM DDIM. Cyflwynir y sesiynau hyn ar-lein ac wyneb yn wyneb ar draws Cymru gan ein harbenigwyr pwnc. Byddant yn cynnig arweiniad ymarferol i chi wrth i chi baratoi i fynd ati i gyflwyno'r cymwysterau Ton 2 yn hyderus. Bydd adnoddau addasadwy RHAD AC AM DDIM ar gael hefyd i'ch cefnogi wrth eich gwaith. 

Cyd-awduro ein cyfres Gwneud-i-Gymru 

Mae cyd-awduro yn parhau i fod yn ganolog i'n gwaith o ddatblygu ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru. Rydym wedi cydweithio ag athrawon, darlithwyr a dysgwyr wrth i ni fynd ymlaen â'r gwaith datblygu gan ddefnyddio ein grwpiau cynghori, ymgynghoriadau a digwyddiadau ymgysylltu. Dyma ein sylfaen ni felly, ac rydym yn parhau i adeiladu arni drwy weithio gyda Dysgu Proffesiynol am Amrywiaeth a Gwrth-Hiliaeth (DARPL) a'r ymgynghorydd gwrth-hiliaeth Rachel Clarke o APEX Educate i sicrhau bod ein cymwysterau yn rhai cynhwysol ac amrywiol. Gyda'n gilydd, gallwn ddefnyddio'r mewnwelediad hynod werthfawr hyn i'n helpu i lunio cymwysterau sydd wir yn ddeniadol i ddysgwyr yng Nghymru ac yn eu cynrychioli.  

Hoffem ddiolch i bawb a roddodd adborth adeiladol i ni yn ystod y cyfnod cydweithredu hwn, ac wrth i ni symud ymlaen i ddatblygu cam nesaf y cymwysterau, rwy'n gobeithio y byddwch yn parhau i gymryd rhan weithredol yn y gweithgareddau hyn.  

Cymwysterau Ton 3 

Defnyddiwyd y gwaith sydd wedi digwydd yn barod yn sail i'r gwaith eang pellach ar ddatblygu ein Trydedd Ton o gymwysterau Gwneud-i-Gymru, gan gynnig profiadau dysgu ymarferol gwell i ddysgwyr ar draws portffolio galwedigaethol amrywiol. Mae'r portffolio ehangach hwn yn cynnwys ein Tystysgrifau Galwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU), Cyfres Sgiliau a chymhwyster Project Personol sy'n adeiladu ar lwyddiant ein Tystysgrif Her Sgiliau, yn ogystal ag amrywiol gymwysterau Sylfaen. Rhan ganolog o'r datblygiad hwn yw ein hymrwymiad i barhau i gynnal safonau llym gan sicrhau ar yr un pryd bod y cymwysterau hyn yn pontio rhwng dysgu yn yr ystafell ddosbarth a defnydd yn y byd go iawn. Er mwyn adeiladu ar yr hyn a wnaed yn barod o ran cyd-awduro, rydym wedi ehangu ar ein partneriaethau â diwydiant ar gyfer Ton 3, gan sicrhau bod y cymwysterau hyn o wir werth yn y farchnad ac yn meithrin cysylltiadau cryfach â'r byd gwaith.  

Cysylltu â'n cymuned addysg  

Y tymor hwn, mae llawer o ymgysylltu wedi bod â rhanddeiliaid ledled Cymru ac rwy'n hynod falch o gael y cyfle i wneud hynny. Ym mis Mai, cefais y fraint o gyflwyno Sesiwn Briffio yn y Senedd, a chafwyd ymgysylltu a chefnogaeth oedd yn galonogol ac yn adeiladol gan Aelodau'r Senedd.    

Ein blaenoriaeth o hyd yw parhau i ymgysylltu ag ysgolion a cholegau. Bues ar ymweliad ag Ysgol Gyfun Gŵyr yn Abertawe yn ddiweddar. Wrth drafod â'r staff a dysgwyr cefais glywed eu safbwyntiau hwy ar weithrediad ymarferol ein cymwysterau. Rydym wedi bod yn cysylltu ag arweinwyr addysgol drwy'r rhwydweithiau Uwch Arweinwyr yn Ne a Gogledd Cymru. Mae cynnal y sgyrsiau hyn ag arweinwyr profiadol ar draws y sector yn amhrisiadwy o ran llywio ein penderfyniadau strategol. 

Os hoffech drefnu ymweliad gennyf i drafod sut gall CBAC eich cefnogi'n well, yna cysylltwch â lorna.turner@cbac.co.uk. 

Un o'r uchafbwyntiau arbennig oedd bod yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym mis Mai. Cawsom gyfle i gwrdd â channoedd o ddysgwyr, rhieni ac athrawon, gan godi ymwybyddiaeth o'n cymwysterau a chael y cyfle i drafod materion yn yr iaith Gymraeg. Roedd hwn yn gyfle unigryw i ni ddathlu'r iaith Gymraeg a'i diwylliant ar lefel oedd yn llai ffurfiol, gan ddangos ein cefnogaeth a dathlu cyflawniad. Edrychwn ymlaen felly at barhau i sgwrsio â dysgwyr, addysgwyr a theuluoedd mewn ffordd ystyrlon yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst. 

Hoffwn ddiolch i chi i gyd am eich cefnogaeth barhaus trwy gydol y flwyddyn, a dymunwn bob lwc i bawb am weddill tymor yr haf. 

Yn gywir 

Ian