Cyfarwyddwr Gweithredol: Cymwysterau ac Asesu yn ymuno â phanel o arbenigwyr i drafod dyfodol cymwysterau galwedigaethol a sgiliau yng Nghymru

Bydd Cyfarwyddwr Gweithredol: Cymwysterau ac Asesu CBAC, Richard Harry, yn ymuno â phanel o addysgwyr uchel eu parch mewn digwyddiad Fforwm Polisïau Cymru i drafod dyfodol cymwysterau galwedigaethol a sgiliau i bobl ifanc 14-16 oed yng Nghymru.  

Mewn sylw am ei ran yn y gynhadledd flaenllaw hon, dywedodd Richard Harry, Cyfarwyddwr Gweithredol: Cymwysterau ac Asesu: 

"Fel y prif gorff dyfarnu yng Nghymru, ein gweledigaeth yw cynnig portffolio o gymwysterau dwyieithog o ansawdd uchel a fydd yn rhoi dewis i ddysgwyr ledled Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cyfres newydd o Gymwysterau TAAU, Cymwysterau Galwedigaethol Sylfaen a Chymwysterau Cyffredinol Sylfaen, ochr yn ochr â chymwysterau Project a Chyfres Sgiliau. 

Rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid i ddatblygu'r cymwysterau newydd hyn a fydd yn cynnig cyfleoedd dysgu newydd i ddysgwyr wella eu gwybodaeth a'u sgiliau i'w galluogi i ffynnu mewn marchnad fyd-eang. 

Mae cyd-awduro yn sail i'n dull o ddatblygu cymwysterau, felly, mae cymryd rhan mewn fforymau fel hyn yn bwysig er mwyn deall barn a safbwyntiau ein rhanddeiliaid. 

Edrychaf ymlaen at drafod y testun hwn gydag aelodau uchel eu parch o'r panel a chymryd rhan mewn dadleuon bywiog a diddorol." 

Bydd Louise Mumford, Rheolwr Dysgu a Datblygu, Ogi, yn ymuno â Richard ar y drafodaeth panel hon, lle byddant yn archwilio'r broses dylunio cymwysterau, safonau, amrywiaeth a chyfateb cymwysterau i anghenion myfyrwyr a chyflogwyr. Bydd cyfleoedd am gwestiynau a sylwadau o'r llawr hefyd. 

Cynnwys y gynhadledd  

Bydd y gynhadledd ar-lein yn cael ei chynnal ddydd Iau 11 Medi, a bydd yn archwilio dyfodol cymwysterau galwedigaethol a sgiliau yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau wrth i ysgolion baratoi ar gyfer cyflwyno Cymwysterau 14-16 Cenedlaethol newydd o 2027.
 

Bydd y digwyddiad yn cynnwys y prif sesiynau gan Oliver Stacey, Uwch Reolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru; ac Alex Ingram, Pennaeth Cymwysterau ac Asesu, Llywodraeth Cymru. 

Bydd y cynrychiolwyr yn cael cyfle i ystyried yr heriau a godwyd yn ystod ymgynghoriadau â rhanddeiliaid, gan gynnwys dyrannu adnoddau, hyfforddiant i athrawon a blaenoriaethau ariannu. Mae'r meysydd i'w trafod yn cynnwys sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel a'r cydbwysedd rhwng dysgu academaidd a galwedigaethol i fyfyrwyr sy'n dilyn y cymwysterau newydd ochr yn ochr â chymwysterau TGAU diwygiedig, yn ogystal â mynd i'r afael â phryderon ynghylch asesiadau di-arholiad a chynnal safonau trwyadl. 

I gadw eich lle, ewch i wefan Fforwm Polisïau Cymru