Cyfarfod ag Emma Vincent, eich Arweinydd Tîm Cefnogi Rhanbarthol
Bydd ein cymwysterau Cyfres Sgiliau a Phroject Personol newydd yn barod i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027.
Dewch i gwrdd â'r tîm a fydd yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd wrth gyflwyno'r cymwysterau newydd cyffrous hyn:
Allwch chi sôn ychydig am eich rôl a'ch cefndir?
“Bues i'n gweithio am dros 17 mlynedd mewn coleg Addysg Bellach mawr, gan ddefnyddio fy mhrofiad o fewn y sectorau twristiaeth a busnes i gyflawni a rheoli amrywiol elfennau o’r cwricwlwm galwedigaethol. Gweithiais mewn sawl rôl yn ystod y cyfnod hwnnw, yn eu plith Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gyfadran, Arweinydd Tîm Cwricwlwm, a Chydlynydd Bagloriaeth Cymru.
Ymunais â CBAC fel Swyddog Cefnogaeth Ranbarthol yn 2011, ac ers hynny mae'r rôl wedi datblygu fel bod modd i mi erbyn hyn arbenigo ar gefnogi colegau addysg bellach ledled Cymru. Rwyf bellach yn arwain tîm o gydweithwyr sy'n cefnogi ysgolion yng Nghymru, gan gyfuno cyfoeth gwybodaeth a phrofiad o bob rhan o'r sector addysg."
Beth rydych chi'n ei wneud yn eich rôl?
"Cefnogi'r canolfannau hynny yng Nghymru sy'n cynnig cwricwlwm seiliedig ar sgiliau yw pwrpas ein tîm ni. Cynigiwn gyngor ac arweiniad er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael profiad eithriadol yn datblygu sgiliau.
Er bod colegau'n gallu bod yn llefydd enfawr, yr wyf wir yn angerddol am sicrhau bod profiad pob dysgwr yn un cadarnhaol. Caiff hyn ei gyflawni drwy gefnogi cydlynwyr sy'n cyflwyno ein cymwysterau."
Beth yw diwrnod nodweddiadol i chi?
“Cyfathrebu yw sail pob diwrnod i raddau helaeth. Gall hyn gynnwys cydweithio â chydlynwyr neu uwch reolwyr mewn canolfannau sy'n gofyn am gyngor ac arweiniad ynghylch cymwysterau, cydweithio â rhanddeiliaid allanol, neu gefnogi cydweithwyr yn CBAC o ran datblygu adnoddau a chyflwyno mewn digwyddiadau Dysgu Proffesiynol.”
Beth allwch chi ei ddweud wrthym am y cymwysterau newydd rydych chi'n eu cefnogi?
“Mae'r Gyfres Sgiliau yn gymhwyster newydd cyffrous sy'n cynnig dewis eang o unedau, y mae pob un yn targedu'r sgiliau hynny y mae angen i ddysgwyr eu datblygu ar gyfer eu dyfodol. Lluniwyd yr unedau i'w cwblhau ynghyd â'r Project Personol, yn ogystal â'n cymwysterau Sylfaen, TGAU, a TAAU newydd.
Bydd y Gyfres Sgiliau a'r Project Personol yn cymryd lle'r Dystysgrif Her Sgiliau yn y canolfannau hynny sy'n cyflwyno'r cymhwyster hwnnw ar hyn o bryd, gyda'r Tîm Cefnogi Rhanbarthol ar gael i roi cyngor a chefnogaeth iddyn nhw.”
Beth rydych chi'n ei fwynhau fwyaf am weithio yn CBAC?
“Mae gweithio i CBAC yn rhoi'r cyfle i mi gyfrannu at ddatblygiadau newydd a chefnogi canolfannau wrth iddyn nhw gyflwyno cwricwlwm cyffrous.”