Creu llwybrau mwy gwyrdd i'r dyfodol: Cynaliadwyedd yn Ymarferol bellach yn ddilys ar gyfer cyllid

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cymhwyster Lefel 2 Cynaliadwyedd yn Ymarferol – Ysgogwyr Newid y Dyfodol bellach yn ddilys ar gyfer cyllid drwy Gyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru. Bydd y garreg filltir bwysig hon yn helpu i greu llwybrau mwy gwyrdd i ddysgwyr a gweithwyr ledled Cymru, gan gefnogi datblygiad sgiliau cynaliadwyedd hanfodol ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Laura Callaghan, Swyddog Pwnc ein cyfres Cynaliadwyedd:  

"Fel y corff dyfarnu cyntaf i ddatblygu cyfres bwrpasol o gymwysterau Cynaliadwyedd, rydym yn falch iawn bod Cynaliadwyedd yn Ymarferol – Ysgogwyr Newid y Dyfodol bellach yn ddilys ar gyfer cyllid.Bydd y datblygiad hwn yn galluogi mwy o ddysgwyr a gweithwyr ledled Cymru i gael mynediad at y cymhwyster a chael effaith gadarnhaol ac ystyrlon yn eu gweithleoedd a'u cymunedau lleol. 

Mae cynaliadwyedd yn her fyd-eang, ac yn un y mae angen cyfrifoldeb ar y cyd amdani. Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol a'r sgiliau ymarferol angenrheidiol i ddysgwyr fynd i'r afael â materion cynaliadwyedd a chymhwyso'r egwyddorion hyn mewn lleoliadau byd go iawn. Drwy dynnu rhwystrau ariannol, rydym yn hyderus y bydd y cyllid hwn yn helpu i ysgogi newid cadarnhaol a pharhaol." 

Yn ei sylwadau am y cyfle am gyllid, dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru:   

"Gall pawb chwarae ei ran yn y Gymru rydym am fyw ynddi heddiw a'i diogelu ar gyfer plant yfory. Rwy'n croesawu'r newyddion bod y cymhwyster Cynaliadwyedd yn Ymarferol – Ysgogwyr Newid y Dyfodol ar gael i fwy o bobl drwy'r Cyfrifon Dysgu Personol Gwyrdd. Mae'r cymhwyster hwn yn adlewyrchu meddylfryd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gan helpu pobl o bob oedran i feithrin y sgiliau a'r cymhelliant i weithredu ar gyfer Cymru lewyrchus, wydn a mwy cyfartal. Mae cyllid Cyfrifon Dysgu Personol yn arwyddocaol iawn am ei fod yn galluogi pobl i gymryd mwy o ran, yn chwalu rhwystrau ac yn gwneud dysgu am gynaliadwyedd yn hygyrch i fwy o bobl nag erioed, gan atgyfnerthu'r neges bod cyfrifoldeb ar bawb i adeiladu dyfodol gwell."

Ychwanegodd Wyn Prichard, Uwch Ymgynghorydd Cynaliadwyedd, a gydweithiodd yn agos â CBAC i ddatblygu'r gyfres Cynaliadwyedd:   

"Mae'n hynod gyffrous bod y cymhwyster CBAC bellach yn cael ei gefnogi a'i ariannu gan raglen Cyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru. Bydd yr angen am gymhwyster cydnabyddedig, yn ogystal â gwybodaeth, bellach yn gallu ysgogi nodau Llywodraeth Cymru a Chenedlaethau'r Dyfodol, drwy lwybr dysgu cydnabyddedig."  

Gwybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy cynaliadwy 
Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, mae'r cymhwyster Lefel 2 Cynaliadwyedd yn Ymarferol – Ysgogwyr Newid y Dyfodol yn un ymarferol, perthnasol i gyflogwyr sydd â sefyllfaoedd byd go iawn yn ganolog iddo. Bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth am gynaliadwyedd ar y cyd â sgiliau project a rheoli newid hanfodol, gan eu galluogi i gynllunio, cyflawni a gwerthuso projectau yn eu lleoliadau eu hunain.  

Gwaith seiliedig ar brojectau fydd y dull asesu a fydd yn caniatáu i ddysgwyr ddangos effaith fesuradwy yn eu hardal leol neu eu gweithle. Ochr yn ochr â gwybodaeth arbenigol am gynaliadwyedd, bydd dysgwyr yn meithrin amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy y bydd modd eu cymhwyso ar draws nifer o sectorau a rolau.  

Cyllid ar gael ledled Cymru 
Mae cyllid ar gyfer y cwrs cyffrous ac ymarferol hwn ar gael drwy Gyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru. Mae'r cymhwyster yn bodloni meini prawf y Sgiliau Gwyrdd ac mae ar gael i ddysgwyr 19 oed a hŷn sy'n byw yng Nghymru.  

I gael rhagor o wybodaeth am gyllid ac i weld a ydych chi'n gymwys, ewch i wefan Gyrfa Cymru. 

Dod o hyd i ganolfan/darparwr hyfforddiant 
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn y cwrs hwn ac yn chwilio am ganolfan/darparwr hyfforddiant yn eich ardal, anfonwch e-bost at: cynaliadwyedd@cbac.co.uk 

Gwybodaeth a chefnogaeth bellach 
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cymhwyster hwn, cysylltwch â'r Tîm Pwnc Cynaliadwyedd:

cynaliadwyedd@cbac.co.uk 
01443 845 612