
Cefnogi Eich Dysgwyr: Asesiadau Wedi'u Haddasu yn CBAC
Yn CBAC, rydyn ni'n gwybod eich bod wedi ymrwymo i gefnogi eich holl ddysgwyr ac rydyn ni yma i'ch helpu chi i wneud hynny. Un o'r ffyrdd ymarferol rydyn ni'n cefnogi hygyrchedd yn ein hasesiadau yw drwy ddarparu papurau wedi'u haddasu i ddysgwyr sydd eu hangen.
Mae'r papurau hyn sydd wedi'u haddasu'n arbennig yn helpu i sicrhau nad yw dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol dan anfantais yn ystod asesiadau. Rydyn ni hefyd yn deall pa mor brysur y gallai'r amgylchedd addysgu fod, a pha mor hawdd ydyw i'w trefniadau hyn fynd yn angof. Bwriad y blog hwn yw codi ymwybyddiaeth o'r hyn sydd ar gael a sut gallwch chi gael mynediad ato.
Beth yw asesiadau wedi'u haddasu?
Asesiadau wedi'u haddasu yw fersiynau addasedig o'n deunyddiau asesu, a gynlluniwyd i gefnogi dysgwyr y gall fformatau safonol fod yn anhygyrch iddynt. Gall hyn fod oherwydd nam ar y golwg, anawsterau dysgu penodol, neu anghenion unigol eraill.
Mae ein fformatau wedi'u haddasu yn cynnwys:
-
Papurau print mawr A4 ac A3 (18pt, 24pt, 36pt print trwm)
-
Papurau Braille / diagramau cyffyrddol
-
Papurau gydag iaith wedi’i haddasu (lle bo hynny ar gael)
-
PDFs electronig ar gyfer darllenwyr sgrin neu fwyhau testun
-
Trawsgrifiadau o asesiadau gwrando
Sut ydw i'n gofyn am asesiadau wedi'u haddasu?
Dylai unrhyw geisiadau gael eu gwneud gan Swyddogion Arholiadau drwy Drefniadau Mynediad Ar-lein (AAO), sydd i'w cael o safle Porth Gweinyddu Canolfannau'r CGC (CAP) drwy'r Porth. I weld cyfarwyddiadau cam wrth gam o ran sut i wneud cais, darllenwch ein canllaw yma.
Rydym yn annog canolfannau'n gryf i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl cyn y dyddiadau cau cyhoeddedig:
-
Cyfres mis Tachwedd – dyddiad cau: 20 Medi
-
Cyfres mis Ionawr – dyddiad cau: 4 Hydref
-
Cyfres mis Mai/Mehefin – dyddiad cau: 31 Ionawr
Os oes angen fformat nad yw wedi'i restru ar ddysgwr, cysylltwch â ni yn uniongyrchol drwy papurauwediuhaddasu@cbac.co.uk a byddwn ni'n gwneud ein gorau i'ch helpu chi.
Beth am gyn-bapurau?
Rydyn ni hefyd yn darparu fersiynau wedi'u haddasu o gyn-bapurau i gefnogi adolygu ac ymarfer arholiadau:
-
Maen nhw'n cael eu huwchlwytho i'n Porth ar ôl i bob cyfres ddod i ben
-
Maen nhw ar gael ar ein gwefan gyhoeddus yn unol â'n polisi cyhoeddi
-
Mae fersiynau Braille ar gael ar gais, naill ai fel copïau caled neu ffeiliau digidol
Peidiwch â gadael pethau'n rhy hwyr
Mae'n hanfodol blaengynllunio. Y cynharaf y byddwn ni'n ymwybodol o anghenion dysgwr, y mwyaf effeithiol fydd y gefnogaeth y gallwn ni ei darparu i chi drwy ddarparu'r deunyddiau cywir yn brydlon.
Angen Cymorth?
Hyd yn oed os nad ydych chi'n sicr p'un a yw dysgwr yn gymwys i dderbyn papur wedi'i addasu, peidiwch ag oedi i gysylltu, rydyn ni'n hapus i gynghori. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu geisiadau unigol, anfonwch e-bost atom drwy papurauwediuhaddasu@cbac.co.uk. Byddwn yn anelu i ymateb i'ch ymholiad o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Cydweithio i sicrhau fod pob dysgwr yn cael cyfle teg i lwyddo. Rhannwch y wybodaeth hon â'ch swyddog arholiadau a'r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig ac anogwch gynllunio blaengynllunio ar gyfer trefniadau mynediad. Gall wneud gwahaniaeth mawr.
TGAU: 029 2026 5082
UG/Safon Uwch: 029 2026 5336
Galwedigaethol, Cymhwysol a Lefel Mynediad: 029 2026 5444
Os oes unrhyw ymholiadau eraill gennych ynghylch papurau wedi'u haddasu, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â papurauwediuhaddasu@cbac.co.uk.