CBAC yn ymuno â Scotty's Little Soldiers i wneud arholiadau'n fwy diogel i fyfyrwyr mewn cyfnod profediageth

Mae'r prif gorff dyfarnu, CBAC, wedi ymuno â Scotty's Little Soldiers, yr elusen genedlaethol sy'n cefnogi plant a phobl ifanc gydag ymgysylltiad milwrol sy’n profi  profedigaeth, mewn menter nodedig gyda'r nod o wneud cynnwys arholiadau yn y dyfodol yn fwy sensitif ac ymwybodol o drawma.   

Mae'r cydweithrediad wedi'i gynllunio i leihau'r risg o ail-drawmateiddio myfyrwyr sy'n galaru yn ystod asesiadau pwysau uchel drwy sicrhau bod cwestiynau arholiad yn cael eu creu gyda mwy o ofal ac ymwybyddiaeth emosiynol.  

Mae Scotty's bellach yn galw ar holl gyrff dyfarnu'r DU i ddilyn eu hesiampl, gan annog ymrwymiad gan y sector gyfan i greu asesiadau sy'n deg, yn ddiogel ac yn ymwybodol o'r heriau unigryw sy'n wynebu pobl ifanc sy’n wynebu profedigaeth.  

Canfyddiadau'n datgelu'r angen am newid 

Mae ymchwil newydd gan Scotty's, sy'n cynnwys 190 o deuluoedd, yn tynnu sylw at y trallod a achosir yn sgil cynnwys ansensitif yn yr ystafell ddosbarth ac yn ystod arholiadau.   

  • Roedd 77% o blant yn dod ar draws gwersi sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'u profedigaeth.  

  • Roedd 52% yn wynebu cynnwys a oedd yn peri trallod dro ar ôl tro.   

  • Roedd dros 1 o bob 8 wedi wynebu deunydd a oedd yn peri trallod mewn arholiadau pwysig fel TGAU a Safon Uwch. 

  • Roedd llai nag 1 o bob 3 teulu yn teimlo bod ysgol eu plentyn yn trin cynnwys sensitif gyda gofal digonol.  

Datblygu deunyddiau asesu mwy diogel  
Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae dros 100 o Swyddogion Pwnc CBAC wedi derbyn hyfforddiant arbenigol gan Rob Ilett, Pennaeth rhaglen addysg a datblygiad personol STRIDES yn Scotty's. Mae'r hyfforddiant yn canolbwyntio ar yr effeithiau academaidd ac emosiynol y gall cynnwys a all beri trallod ei gael ar fyfyrwyr  sy'n galaru.  

Dywedodd Rob Ilett: "Mae'r ffaith fod CBAC yn mynd i'r afael â'r ffordd y mae arholiadau yn cael eu hysgrifennu yn cael effaith sylweddol ar bobl ifanc sy'n galaru yn profi anfantais oherwydd eu profedigaeth.  Rydym yn gobeithio y bydd byrddau arholi eraill yn dilyn eu camau ac yn gwneud ymdrechion parhaus i leihau'r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn cael eu hail-drawmateiddio gan gynnwys y cwestiynau yn ystod arholiadau pwysig". 

Ychwanegodd Sally Melhuish, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ansawdd Asesu a Dylunio yn Eduqas : 

Mae CBAC yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Scotty's Little Soldiers i wneud asesiadau'n fwy diogel yn emosiynol i bob dysgwr. Fel un o brif gyrff dyfarnu’r DU, rydym yn cydnabod yr effaith ddofn y gall trawma a thrallod eu cael ar bobl ifanc. Dyna pam rydyn ni'n cymryd camau ystyrlon i addysgu timau sy'n ymwneud â chynhyrchu ein hasesiadau a'n cymwysterau. 

Gydag arweiniad arbenigol Scotty's Little Soldiers, rydym wedi cryfhau ein dull o ddatblygu asesiadau cynhwysol a hygyrch - gan sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i ddangos yr hyn y maent yn ei wybod, ei ddeall ac yn gallu ei wneud mewn amgylchedd cefnogol ac emosiynol ddiogel."  

I ddysgu mwy am ddull CBAC o ran datblygu deunyddiau asesu, edrychwch ar ein gwefan.