
CBAC yn paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd!
Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025.
Pryd? 26-31 Mai 2025
Ble? Parc Margam
Am y digwyddiad
Gŵyl ieuenctid deithiol flynyddol yw Eisteddfod yr Urdd – digwyddiad hollbwysig yng nghalendr Cymru! Daw pobl o bob oed a chefndir at ei gilydd yn rhan o'r ŵyl fywiog hon i ddathlu pob agwedd ar y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. Mae'n gyfle i arddangos amrywiaeth o gerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth a pherfformiadau. Caiff miloedd o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg eu denu i'r Eisteddfod bob blwyddyn.
Eleni, bydd yr ŵyl yn dychwelyd i Barc Margam ar ôl ymweld â'r parc ddiwethaf yn 2003. Mae disgwyl i 90,000 o ymwelwyr ymgynnull yn y dref ar gyfer yr ŵyl a fydd yn para wythnos.
Felly, ewch amdani! I ddysgu mwy ac i gadw eich lle, cliciwch yma.
Dyma oedd gan Jonathan Thomas, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand, i'w ddweud am ein rhan yn yr Eisteddfod:
“Rydym yn falch iawn o gefnogi'r ŵyl fawreddog hon eto eleni. Dyma gyfle gwych i ddathlu diwylliant ieuenctid, y gymuned addysg, a'r iaith Gymraeg. Edrychwn ymlaen at gyfarfod y rhai fydd yn mynychu, a rhoi cefnogaeth ac arweiniad ychwanegol iddynt er mwyn cyflwyno ein cymwysterau yn hyderus.”
Cwrdd â'r tîm Bydd ein tîm cyfeillgar wrth law yn ein stondin arddangos i ateb eich holl gwestiynau ynghylch ein cymwysterau ac i arddangos ein hamrywiaeth diguro o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM. Dim cwestiynau? Dim problem! Peidiwch ag oedi, dewch draw i ddweud 'helo' – gallwch roi eich traed i fyny ac ymlacio ar un o'n sachau eistedd cyfforddus a chymryd rhan mewn llu o gemau a chystadlaethau. Dewch i weld yr hyn sydd gennym i'w gynnig! |
Pob Lwc!
Pob lwc i'r unigolion fydd yn cystadlu yn ystod wythnos yr Eisteddfod! Rydym yn sicr y bydd yr Eisteddfod yn un i'w chofio.