CBAC yn noddi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022

CBAC yn noddi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022

Rydym yn falch o noddi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a fydd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf ers tair blynedd yn Sir Ddinbych.

Pryd? Dydd Llun, 30 Mai – Dydd Sadwrn, Mehefin 4
Ble? Dinbych, LL16 3NU

Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop – digwyddiad hollbwysig yng nghalendr Cymru! Daw pobl o bob oed a chefndir at ei gilydd yn rhan o'r ŵyl fywiog hon i ddathlu pob agwedd ar y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. Mae'n gyfle i arddangos amrywiaeth o gerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth a pherfformiadau. Caiff miloedd o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg eu denu i'r Eisteddfod bob blwyddyn.

Dyma oedd gan Jonathan Thomas, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand, i'w ddweud am ein nawdd: "Rydym yn falch iawn o gefnogi'r ŵyl fawreddog hon. Dyma gyfle gwych i ddathlu diwylliant ieuenctid, y gymuned addysg, a'r iaith Gymraeg."

Byddwn yn noddi'r ddwy wobr ganlynol:

- Cystadleuaeth 19: Deuawd Blwyddyn 10 a dan 19 oed
- Cystadleuaeth 30: Ensemble Lleisiol Blwyddyn 10 a dan 19 oed

Llongyfarchiadau enfawr i bawb a gymerodd ran yn yr eisteddfodau lleol a rhanbarthol, a phob lwc i bawb sy'n cystadlu yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Yn sicr, bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 yn Eisteddfod i'w chofio!
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch Twitter: @EisteddfodUrdd / Facebook: @eisteddfodurdd  / Instagram: eisteddfodurdd