CBAC yn lansio'r cymwysterau Lled-ddargludydd cyntaf erioed i ddysgwyr yng Nghymru

CBAC yn lansio'r cymwysterau Lled-ddargludydd cyntaf erioed i ddysgwyr yng Nghymru

CBAC yw'r corff dyfarnu cyntaf yn y DU i lansio cyfres o gymwysterau Lled-ddargludydd, gan roi llwybr newydd a chyffrous i ddysgwyr i'r diwydiant hwn sy'n ffynnu.

Mae Cymru'n gartref i waith ymchwil a gweithgynhyrchu blaenllaw ar gyfer lled-ddargludyddion, ac ochr yn ochr â thwf sylweddol, bu cynnydd hefyd yn y nifer o gyfleoedd cyflogaeth i ddysgwyr a gweithwyr ledled y wlad.

I gefnogi hyn, mae CBAC wedi ymuno â'r clwstwr lled-ddargludyddion CSconnected, colegau, prifysgolion, ac arbenigwyr yn y diwydiant i ddatrys y bwlch sgiliau cynyddol amlwg hwn. Mae'r cymwysterau newydd hyn wedi'u llunio i alluogi dysgwyr i wella eu gwybodaeth am y sector a rhoi'r sgiliau iddyn nhw ar gyfer rolau technegol uwch yn y maes gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion.

Gan gyfeirio at y datblygiad arloesol hwn, dywedodd Steffan Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol: Datblygiad Masnachol CBAC: "Gan ddefnyddio dros 75 mlynedd o brofiad o ddatblygu a darparu cymwysterau ac asesiadau dilys a dibynadwy, rydym yn falch o gynnig cyfres ddysgu lled-ddargludydd gwbl integredig i gefnogi dysgwyr i gael mynediad i'r diwydiant hwn.

"Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein partneriaid o'r diwydiant, Addysg Bellach ac Addysg Uwch, sydd wedi arwain ein gwaith datblygu i sicrhau bod y cymwysterau newydd hyn yn cyfateb i'w gofynion ac yn cynnig llwybrau uniongyrchol i ddysgwyr i gyflogaeth yn y diwydiant hwn sy'n ffynnu.

"Mae'r cymwysterau newydd hyn yn dystiolaeth o'n hymrwymiad i gynnig cymwysterau ar bob cyfnod dysgu, gan roi gwybodaeth ddamcaniaethol gadarn a sgiliau ymarferol i ddysgwyr y mae modd eu cymhwyso'n uniongyrchol at y gweithle neu at astudiaeth bellach."

Mae Dr Lewis Kastein, Uwch Beiriannydd Cynnyrch Ffotoneg Ymchwil a Datblygu yn IQE PLC ac aelod o Grŵp Datblygu Cymwysterau CBAC, wedi cymeradwyo'r datblygiad cyffrous hwn:

"Mae technegwyr lled-ddargludyddion yn hanfodol i lwyddiant y diwydiant lled-ddargludyddion yn Ne Cymru a thu hwnt. Mae angen y cymwysterau hir-ddisgwyliedig hyn i gyflwyno mwy o bobl i'r diwydiant sy'n tyfu sydd ar garreg eu drws.

"Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o'r amrywiaeth o gyfleoedd swyddi lled-ddargludydd sydd ar gael, neu fod bron yr holl dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio o ddydd i ddydd yn cynnwys lled-ddargludyddion. Bydd y cymwysterau hyn yn helpu i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r priodoleddau i dyfu a llwyddo yn y maes technolegol pwysig hwn."

Mae'r cymwysterau newydd hyn ar gael i ddysgwyr o fis Ebrill 2024. Byddwn yn canolbwyntio i ddechrau ar ddarparu llwybrau newydd i ddysgwyr yng Nghymru i'r diwydiant hwn. Y nod tymor hir yw cyflwyno'r cymwysterau hyn i ddarparwyr hyfforddiant ledled y DU.

Grymuso dysgwyr i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth

Mae'r gyfres newydd hon yn cynnwys dau gymhwyster yn y lle cyntaf:

  • Lefel 2 Cyflwyniad i Dechnolegau Gweithgynhyrchu Uwch (Lled-ddargludyddion) – mae hwn wedi'i lunio ar gyfer dysgwyr heb fawr ddim gwybodaeth, os o gwbl, am y diwydiant lled-ddargludyddion. Mae'r cymhwyster yn cynnig cyflwyniad eang i'r sector a bydd yn datblygu gwybodaeth sylfaenol i gefnogi dysgwyr i symud ymlaen i ddysgu pellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.
  • Lefel 4 Tystysgrif Dechnegol Uwch ar gyfer technegwyr lled-ddargludyddion – mae hwn wedi'i lunio i gymhwyso dysgwyr ar gyfer swyddi lefel technegydd yn y sector. Mae'r cymhwyster yn cynnig llwybr dilyniant i ddysgwyr sy'n cwblhau cymhwyster lefel 3 sydd ddim am fynd ymlaen i addysg uwch a/neu ddysgwyr fyddai'n well ganddyn nhw fynd ar drywydd llwybr prentisiaeth. Mae'r cymhwyster ar gael hefyd i ddysgwyr sy'n gweithio yn y sector mewn rolau annhechnegol sydd am uwchsgilio/ailhyfforddi mewn rolau technegol.

Cefnogi dysgwyr yng Nghymru

Bydd y cymwysterau newydd hyn yn cael eu darparu drwy 'Ffowndri Sgiliau Lled-ddargludydd Cymru' i ddechrau, dan arweiniad y darparwr hyfforddiant o Gaerdydd, iungo Solutions. Asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU, Innovate UK, sy'n ariannu'r fenter hon.

Bydd y rhaglen newydd hon yn hyfforddi 100 o newydd-ddyfodiaid erbyn mis Rhagfyr 2024, lle bydd y sawl sy'n mynychu yn dysgu am ddefnyddiau, prosesau a chadwyn gyflenwi fyd-eang lled-ddargludyddion, yn datblygu eu sgiliau dylunio, profi a rhaglennu electronig, ac yn cwblhau ardystiad Lean Six Sigma Green Belt.

I gael rhagor o wybodaeth:
Jonathan Thomas
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand
Jonathan.thomas@cbac.co.uk
029 2026 5102