
CBAC yn derbyn 'Cydnabyddiaeth i Ddarparu a Dyfarnu Cymwysterau 14-16 Cenedlaethol'
Yn dilyn proses adolygu a gwerthuso gynhwysfawr gan Cymwysterau Cymru, mae'n bleser gennym gadarnhau ein bod wedi llwyddo i fodloni'r meini prawf i ddarparu a dyfarnu cymwysterau yn rhan o'r Gyfres 14-16 Cenedlaethol.
Mewn sylw am ein llwyddiant, dywedodd Richard Harry, Cyfarwyddwr Gweithredol: Cymwysterau ac Asesu: |
|
![]() |
"Gyda 75 mlynedd a mwy o brofiad yn datblygu a darparu cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol, mae'r gydnabyddiaeth hon yn cadarnhau safle CBAC fel y prif gorff dyfarnu yng Nghymru. Mae ein timau'n gweithio'n gyflym i ddatblygu'r gyfres newydd o gymwysterau yn rhan o'r cynnig Cymwysterau 14-16 Cenedlaethol, gan gynnwys TAAU a'r Gyfres Sgiliau. Bydd y rhain yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu i ddysgwyr ledled Cymru, a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen a dilyn pa bynnag lwybr sy'n mynd â'u bryd. |
Mae ein Tîm Datblygu Cymwysterau yn parhau â'n traddodiad o gyd-awduro, drwy ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys dysgwyr, athrawon ac arweinwyr yn y diwydiant wrth ddatblygu'r cymwysterau arloesol hyn.
Mae parch mawr tuag at gymwysterau CBAC gan ysgolion, colegau ac yn enwedig dysgwyr. Rydym, felly, yn hyderus y bydd y gyfres newydd hon yn ein gwneud yn ddarparwr o ddewis. Bydd ein cymwysterau newydd, diddorol ac ysbrydoledig yn gwella profiad dysgwyr, drwy gynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous a fydd yn agor drysau i lwybrau gyrfa." |
Cynnig Cymwysterau 14-16 Cenedlaethol
Mae'r gydnabyddiaeth a ddyfarnwyd i ni gan Cymwysterau Cymru yn ein hawdurdodi i ddarparu a dyfarnu'r cymwysterau canlynol:
- TAAU
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol a Chysylltiedig â Gwaith
- Cyfres Sgiliau
- Project Personol
Bydd y cymwysterau hyn ar gael i ganolfannau o fis Medi 2027.
Mewn datganiad, dywedodd Denver Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio Cymwysterau Cymru: "Diolch yn fawr i'ch corff am ymrwymo i gynnal safonau uchel o ran darparu cymwysterau ac asesu yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at berthynas gynhyrchiol a chydweithredol wrth i chi gyfrannu at y cynnig Cymwysterau 14-16 Cenedlaethol."
I ddysgu mwy am ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru, gan gynnwys TGAU, TAAU a'r Gyfres Sgiliau, ewch i'n tudalen we a thanysgrifiwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf.