
CBAC yn dathlu 75 mlwyddiant
Mae 2023 yn nodi ein 75 mlynedd fel y bwrdd arholi mwyaf blaenllaw yng Nghymru.
Nodwyd yr achlysur gan ddigwyddiad yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd, ddoe (22 Tachwedd). Ymunodd gwesteion nodedig â’r digwyddiad, gan gynnwys Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Dr Llinos Jones, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, yn ogystal ag unigolion allweddol o o'r holl gymuned addysg yng Nghymru yn eu plith penaethiaid, undebau, consortia a rheoleiddwyr.
Sefydlwyd CBAC yn 1948, a rydym yn chwarae rhan allweddol mewn asesu addysgol a datblygu cymwysterau ers tri chwarter canrif. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol fel consortiwm o Awdurdodau Addysg Lleol Cymru, gan ddisodli Bwrdd Canolog Cymru. Bellach rydym yn elusen gofrestredig, ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant. Rydym hefyd yn darparu arholiadau, datblygiad proffesiynol ac adnoddau addysgol i ysgolion a cholegau yn Lloegr dan frand Eduqas.
Rydym yn cyflogi dros 400 o bobl, gan gynnwys arbenigwyr pwnc a gweithwyr proffesiynol profiadol yn y maes dysgu ac addysgu. Ar ôl cyflwyno cymwysterau cyffredinol wedi'u diwygio yn 2015, rydym bellach yw'r unig ddarparwr cymwysterau i ysgolion a cholegau sydd wedi'u hariannu gan y wladwriaeth ar draws y rhan fwyaf o bynciau TGAU ac UG/Safon Uwch. Rydym hefyd wrthi'n creu cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig dwyieithog yn rhan o broject 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol' Cymwysterau Cymru.
Mae'r bwrdd yn cynnig bron i 200 o gymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a Galwedigaethol yng Nghymru, a dyfarnwyd dros 440,000 o gymwysterau ym mlwyddyn academaidd 2022/23 yn unig. Ni yw'r unig gorff dyfarnu i ddarparu mynediad uniongyrchol at arbenigwyr pwnc a thimau cefnogi er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'i gymwysterau, yn ogystal â darparu adnoddau dysgu ac addysgu dwyieithog rhad ac am ddim yn rhan o becyn o adnoddau sy'n tyfu'n barhaus.
Yn ogystal, yn 2022, lansiwyd Gynllun Bwrsariaeth Gareth Pierce er cof am ein ddiweddar Brif Weithredwr. Bwriad y cynllun yw hyrwyddo rhagoriaeth academaidd ac mae'n darparu cymorth o £3,000 i dri myfyriwr israddedig sy'n astudio mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhannodd ein Prif Weithredwr, Ian Morgan, ei frwdfrydedd dros y dathliad llwyddiannus, gan nodi, "Mae 75 mlwyddiant CBAC yn tanlinellu ymroddiad a chyfraniad pawb sydd wedi bod yn rhan o lwyddiant y corff dros y blynyddoedd. Rydym yn ymfalchïo yn ein hetifeddiaeth, ein rôl wrth lunio polisïau addysgol, a'n hymrwymiad i gefnogi myfyrwyr Cymru. Roedd y dathliad yn brawf o ddylanwad cadarnhaol CBAC ar y byd addysg a'n haddewid i barhau yn yr un ysbryd."
Ychwanegodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r dathliadau i nodi'r flwyddyn arbennig iawn hon i CBAC.
"Mae'n bwysig bod ein dysgwyr yn manteisio ar addysg ddwyieithog eang a chytbwys sy'n cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous. Mae CBAC yn parhau i osod safonau uchel i bawb ac edrychaf ymlaen at fwy o gydweithio wrth iddyn nhw ddatblygu cymwysterau sy'n cyd-fynd â'r dyheadau sy’n sail i'n Cwricwlwm i Gymru newydd."
Gellir gweld lluniau o'r noson ar ein tudalen Facebook yma.
Dilynwch ni: