CBAC yn cyhoeddi cynllun bwrsariaeth newydd i fyfyrwyr israddedig

CBAC yn cyhoeddi cynllun bwrsariaeth newydd i fyfyrwyr israddedig

Er cof am ein cyn Brif Weithredwr, mae CBAC wedi lansio Bwrsari Gareth Pierce i gefnogi myfyrwyr israddedig sy'n astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y cynllun bwrsari yn cefnogi 3 myfyriwr yn flynyddol a bydd yn cael ei weinyddu gyda chefnogaeth garedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Gan sôn am y cynllun, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr, CBAC: "Cefais y fraint o weithio gyda Gareth, ac mae ffrwyth ei waith i’w weld yn CBAC o hyd. Yn ystod ei 14 mlynedd fel Prif Weithredwr, roedd Gareth wedi ymrwymo i wasanaethu'r gymuned addysg yng Nghymru. Roedd yn angerddol tuag at addysgu a dysgu ac roedd yn uchel ei barch am ei wybodaeth, ei ddealltwriaeth a'i ymroddiad i’r byd addysg.

Arwydd bach o ddiolch gan CBAC yw'r bwrsari hwn am ei ddylanwad enfawr a'i effaith pellgyrhaeddol. Roedd yn fathemategydd brwd ac yn eiriolwr balch dros ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a theimlwn fod y bwrsari yn adlewyrchiad o'i werthoedd a'i gredoau.

Rwy'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Roedd gan y Coleg berthynas bersonol a phroffesiynol agos â Gareth, ac mae ganddyn nhw rôl ganolog yn y broses o gyflwyno ein bwrsari newydd".

Anrhydeddu Gareth Pierce

Roedd Gareth yn gweithio'n ddiflino i gefnogi dysgwyr o Gymru gyfan drwy gydol ei yrfa. Bu'n gwneud hyn yn ystod ei gyfnod yn CBAC a gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn anffodus, bu farw Gareth yn 2021, a sefydlwyd y bwrsari hwn yn rhodd teilwng i goffau ei amser a’i waith.

Dywedodd, grwaig Gareth, Lynwen Pierce:

“Rydym fel teulu yn ddiolchgar iawn i CBAC am gyflwyno’r fwrsariaeth hon er cof am Gareth ac i’r Coleg Cymraeg am ei gefnogaeth iddi. Mae’n bwysig i ni ac yn gysur mawr bod angerdd Gareth dros Fathemateg ac Ystadegaeth, ei ymrwymiad a’i gyfraniad helaeth i’r byd addysg yng Nghymru yn cael eucydnabod mewn ffordd mor gadarnhaol ac anrhydeddus.

Mae’r fwrsariaeth hon hefyd yn destun balchder gan ei bod yn hyrwyddo cenhadaeth frwd Gareth dros feithrin ac addysgu mathemategwyr cymwys yn y Gymru gyfoes a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Hyderwn y bydd y sawl sy’n elwa o’r gwaddol teilwng hwn yn mynd ymlaen i gyfrannu’n helaeth ac yn glodwiw i fyd Mathemateg yng Nghymru a thu hwnt.”

Bydd ceisiadau am y bwrsari newydd yn cael eu gweinyddu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a oedd yn barod iawn i gefnogi CBAC.

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg:

“Roedd colli Gareth llynedd yn ergyd mawr i gymaint ohonom ac rydym yn parhau i weld eisiau ei arweiniad, ei gyngor doeth a’i gyfeillgarwch. Roedd yn ŵr bonheddig a weithiodd yn ddiflino er mwyn sicrhau bod pobl ifanc Cymru yn derbyn y gefnogaeth a’r cyfleoedd gorau posibl drwy’r gyfundrefn addysg statudol ac ôl-orfodol.

Mae’n bleser mawr gan y Coleg gefnogi CBAC gyda’r tri bwrsari i fyfyrwyr sy’n astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd Gareth yn ystadegydd o fri ac mae hwn yn fodd teilwng iawn o gofio amdano a’i gyfraniad aruthrol i addysg Gymraeg drwy gydol ei yrfa.”  

Yn rhan o'r cynllun newydd, bydd 3 bwrsari o £3,000 y flwyddyn yn cael eu rhoi i bob myfyriwr sy'n astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy'n gymwys i gael benthyciad myfyriwr yn seiliedig ar brawf modd. Gan mai grant yw'r arian a dderbynnir, nid yw'n ad-daladwy, gan leihau'r baich ariannol ar fyfyrwyr. Bydd y cynllun yn agor i fyfyrwyr a fydd yn dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2022 a bydd y ceisiadau'n cael eu derbyn yn flynyddol.

Mae manylion pellach am sut bydd y cynllun yn gweithio ar gael drwy wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/cymorthariannol/bwrsariaethgarethpiercecbac/

Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau:
Jonathan Thomas
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand
jonathan.thomas@cbac.co.uk
029 2026 5102