CBAC mewn partneriaeth â menter Rhannu Llyfrau RNIB
Mae CBAC yn falch o gyhoeddi ein bod wedi ffurfio partneriaeth â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) fel rhan o'u menter Rhannu Llyfrau.
Mae'r fenter yn darparu casgliad cynhwysfawr o ddeunyddiau addysgol ar gyfer dysgwyr ag anableddau print. Mae'r dull hwn yn galluogi dysgwyr sydd ddim yn gallu defnyddio print safonol, gan gynnwys y rhai hynny â dyslecsia ac sy'n ddall neu'n rhannol ddall, i ddarllen yr un llyfrau â'u cyfoedion, gan roi'r un cyfleoedd addysgol iddynt.
Yn trafod y bartneriaeth hon mae Melanie Blount, Pennaeth Adnoddau Digidol CBAC: “Fel corff, rydym wedi ymrwymo i ddarparu deunyddiau sy'n hygyrch i bob dysgwr. Rydym yn hynod falch o weithio mewn partneriaeth â RNIB. Mae hon yn fenter wych, sy'n sicrhau mynediad cyfartal i ddysgwyr ag anableddau print.”
Dros y misoedd nesaf, bydd dysgwyr yn gallu cael mynediad at ein hamrywiaeth lawn o ddeunyddiau drwy'r platfform, sy'n caniatáu i ddysgwyr ddefnyddio amrywiaeth o fformatau electronig i'w darllen mewn sawl ffordd gan gynnwys:
- Defnyddio ap Dolphin EasyReader RNIB, sy'n caniatáu i ddysgwr ddarllen teitl mewn unrhyw fformat
- Mynediad at feddalwedd testun i leferydd, darllenwyr ac arddangosiadau braille digidol a sain
- Lawrlwytho deunyddiau i'w haddasu'n braille ffisegol a phrint bras.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael mynediad at y cyfoeth o ddeunyddiau, ewch i wefan RNIB.