CBAC Drama yn croesawu amrywiaeth a chynhwysiant

CBAC Drama yn croesawu amrywiaeth a chynhwysiant

Drwy weithio â Chonsortiwm Theatr Llundain a'u partneriaid yn y gweithgor RinD (Representation in Drama), rydym wedi cyflwyno cyfanswm o 15 testun newydd i'n cwricwlwm Drama. 

Bydd disgyblion sy'n dilyn ein cymwysterau TGAU Drama a Safon Uwch Drama a Theatr yn gallu astudio amrywiaeth eang o destunau o amrywiaeth o gefndiroedd a chyfnodau diwylliannol o fis Medi 2021 ymlaen. Dewiswyd y testunau hyn oherwydd eu genres amrywiol, eu cynwysoldeb, a'u themâu cyfoes i sicrhau bod y fanyleb yn dal i fod yn berthnasol.  

Themâu cynhwysol

Mae'r testunau newydd yn mynd i'r afael ag amrywiaeth o themâu, o dderbyn LGBTQ+ ac anghydffurfiaeth rhywedd i ethnigrwydd, ymfudo ac aeddfedu (coming-of-age). Rydym bob amser yn ceisio cynnwys amrywiaeth eang o destunau diddorol a heriol o wahanol gyfnodau hanesyddol a gwahanol genres. Eleni, fodd bynnag, roedd yn teimlo ei bod yn bwysicach nag erioed bod y dramâu yn y manylebau yn adlewyrchu cymdeithas heddiw. Mae'r testunau yn cynnig digon o gyfle i ail-ddehongli oherwydd eu cynnwys, cymeriadau a'u theatredd. Gobeithio eu bod yn apelio i drawstoriad eang o ddysgwyr o wahanol gefndiroedd diwylliannol a chymdeithasol. 

Adborth gan y gymuned addysgu

Ymchwiliwyd a thrafodwyd y detholiad testun yn helaeth. Gwnaed arolygon mewn ysgolion a cholegau i gael adborth ynghylch y testunau gosod arfaethedig, ac mae ein Uwch Arholwyr, Cadeirydd yr Arholwyr a'r Swyddog Pwnc Drama, wedi gweithio'n ddiddiwedd i sicrhau bod y testunau newydd yn cynnig dewis cynhwysol a diddorol i ganolfannau.  

Dywedodd Beverley Roblin, ein Uwch Arholwr TGAU Drama, a'n cynrychiolodd yn y Gweithgor Amrywiaethu'r Cwricwlwm: "Rwyf wedi bod yn gweithio gyda'r Royal Court Theatre London Theatre Consortium yn rhan o'u paneli ymgynghori ers mis Mai 2017. Sefydlwyd y panel, a oedd yn cynnwys aelodau o amrywiaeth o ddiwydiannau creadigol i gefnogi athrawon ar draws y wlad gydag arholiadau, dylanwadu ar addysgu ysgrifennu newydd; yn enwedig testunau gan fenywod a dramodwyr o'r mwyafrif byd-eang yn yr ystafell ddosbarth a gyda phontio'r bwlch rhwng diwydiant ac addysg ffurfiol. Dros y 18 mis diwethaf, mae'r panel wedi canolbwyntio ar gynrychioliad ar draws y cwricwlwm drama, ac maen nhw wedi gweithio'n agos â CBAC gan gynnig cefnogaeth ac arweiniad wrth ein helpu i ddewis amrywiaeth o destunau newydd cyffrous. 

Mae'r testunau newydd a gynigir ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch yn dangos ymrwymiad CBAC i ddewis testunau sy'n cynrychioli'r amrywiaeth o ysgolion a myfyrwyr sy'n astudio Drama. Dyma'r cam cyntaf wrth ddatblygu amrywiaeth o adnoddau newydd sy'n cynrychioli ac yn dathlu gwaith dramodwyr, cwmnïau theatr ac ymarferwyr o'r Mwyafrif Byd-eang."  

Croesawyd y newidiadau gan Romana Flello, Rheolwr Cyfranogiad yn y Royal Court Theatre, a Chadeirydd grŵp Dysgu Creadigol y London Theatre Consortium: "Rydym yn falch bod CBAC wedi ymrwymo i wneud y newidiadau hyn. Mae ychwanegu testunau gan ddramodwyr o'r mwyafrif byd-eang a chymunedau LGBTQ+ at eu Hasesiad di-arholiad awgrymedig a'r rhestri o destunau gosod ar gyfer TGAU a Safon Uwch yn cael ei groesawu ar y daith tuag at ddad-drefedigaethu'r cwricwlwm. Edrychwn ymlaen at gefnogi CBAC ymhellach gyda'u hymrwymiad i ddarparu manyleb gynhwysol sy'n hyrwyddo ymdeimlad o urddas a pherthyn i bob myfyriwr." 

Dywedodd Wyn Jones, ein Swyddog Pwnc Drama: “Rydym wedi gwir fwynhau darllen llawer o destunau newydd a chyfoes, gan ddarganfod hefyd rhai testunau hanesyddol gwych sydd yr un mor berthnasol. Rwy'n arbennig o falch bod dramodwyr Cymraeg cyfoes fel Dafydd James, Gwawr Loader, Bethan Marlow ac Alun Saunders wedi cael eu hychwanegu at y manylebau. Mae'r adborth hyd yma wedi bod yn wych, gyda llawer o athrawon yn canmol yr amrywiaeth o destunau, a'r cynwysoldeb y maent bellach yn ei gynnig. Rydym yn gobeithio gweithio gyda National Drama a sefydliadau blaenllaw eraill i ddatblygu mwy o adnoddau o ran Amrywiaeth o fewn Drama.”

Cefnogaeth ac arweiniad RHAD AC AM DDIM

I gefnogi ein cymwysterau, rydym yn cynnig amrywiaeth o adnoddau a deunyddiau rhad ac am ddim. Maent wedi'u datblygu i wella dysgu, ysgogi trafodaeth yn yr ystafell ddosbarth, ac annog diddordeb myfyrwyr. Mae adnoddau newydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd i gefnogi athrawon a myfyrwyr wrth iddyn nhw archwilio'r testunau a’r themâu allweddol newydd hyn. 

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i dderbyn gwybodaeth a diweddariadau.