Canlyniadau'r arolwg: TGAU Bioleg, Cemeg a Ffiseg
Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ym mis Medi 2025, y byddai'n ymgynghori ymhellach yn yr hydref 2028 ar y dewis o gymwysterau TGAU y gwyddorau a fyddai ar gael yn y dyfodol.
O ganlyniad, bydd ein cymwysterau TGAU presennol ym mhynciau Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn parhau i fod ar gael tan haf 2031. Canlyniad ymgynghoriad Cymwysterau Cymru yn 2028 fydd yn penderfynu ar ddiwyg y gyfres TGAU y gwyddorau o fis Medi 2031 ymlaen.
Lansiwyd arolwg gennym ym mis Hydref i gasglu adborth a chanfod pa gefnogaeth sydd yna i'r posibilrwydd o wneud newidiadau i'n cymwysterau TGAU gwyddorau ar wahân presennol yn y cyfnod interim hwn.
Adborth o'r arolwg
Amlinellodd yr arolwg bedwar opsiwn o ran ein TGAU presennol mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg:
-
Opsiwn 1
Newid Uned 3: Asesiad Ymarferol i gyfateb i'r dull gweithredu yn Uned 7: Ymholiad Gwyddonol y TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) newydd
-
Opsiwn 2
Newid mewn dau gam: Newid Uned 3: Asesiad Ymarferol i'w haddysgu o fis Medi 2026 (fel Opsiwn 1). Yna newid Uned 1 ac Uned 2 i'w haddysgu o fis Medi 2027 i gyfateb i'r TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) o ran cynnwys, Amcanion Asesu a phwysoliadau, arddull asesu'r arholiad a dileu'r marciau Ansawdd Ymatebion Estynedig.
-
Opsiwn 3
Newid pob uned (fel Opsiwn 2) gyda'i gilydd i'w haddysgu o fis Medi 2027.
-
Opsiwn 4
Peidio â newid y manylebau
Agorodd yr arolwg ar 1 Hydref 2025 a daeth i ben ar 17 Hydref 2025. Hoffem ddiolch i bawb wnaeth ymateb am fod yn barod i rannu eu barn.
Derbyniwyd adborth oddi wrth 438 o ymatebwyr o 60% o'r ysgolion ar draws Cymru, cyfrwng Cymraeg a Saesneg, ac ysgolion bach a mawr. Rydym yn hyderus ein bod wedi derbyn ymateb sy'n ddigon cynrychiadol ac yn ddigon mawr i seilio ein penderfyniad arno.
Yn ogystal â'r arolwg, cysylltodd ein Tîm Datblygu Cymwysterau yn uniongyrchol â rhanddeiliaid allweddol, yn eu plith athrawon gwyddoniaeth, uwch arweinwyr ysgolion, a chynrychiolwyr cymdeithasau dysgedig.
Gan ddefnyddio'r adborth a gasglwyd fel sail, dadansoddodd ein timau yr ymatebion a gafwyd gan ystyried y gyfatebiaeth rhwng TGAU Bioleg, Cemeg, Ffiseg a TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) yng nghyd-destun llwyth gwaith athrawon/ysgolion a sut mae'r cymwysterau'r cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru. Rhannwyd ein casgliadau a thrafodwyd y risgiau ac oblygiadau gyda Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru yn barod i lywio ein penderfyniadau a'r camau nesaf.
Dyma’r prif gasgliadau:
-
Opsiynau 1 a 4 oedd yr unig opsiynau lle cafwyd mwy o gefnogaeth na gwrthwynebiad.
-
Derbyniodd Opsiwn 1 y gyfran fwyaf o gefnogaeth gan ymatebwyr, gyda bron dwy rhan o dair o'r holl ymatebion naill ai'n cefnogi'r opsiwn neu'n ei gefnogi'n gryf.
-
Roedd Opsiynau 2 a 3, sy'n cynnwys newid pob uned, yn llai poblogaidd o bell ffordd nag Opsiynau 1 a 4.
-
Opsiwn 3 a gefnogwyd leiaf.
Mae hyn yn cyfateb yn fras i'r safbwyntiau a rannwyd gyda ni yn ystod ein gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Ein penderfyniad
Ar sail y casgliadau uchod, penderfynwyd y byddwn yn mabwysiadu Opsiwn 1.
Mae hyn yn golygu:
-
Byddwn yn newid Uned 3 (yr uned ymarferol) yn y TGAU Bioleg, Cemeg a Ffiseg presennol, ond ni fyddwn yn newid Unedau 1 a 2.
-
Bydd Uned 3 Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn newid i gyfateb i'r dull gweithredu yn Uned 7: Ymholiad Gwyddonol y cymhwyster Y Gwyddorau (Dwyradd) newydd ar gyfer asesu sgiliau ymholi gwyddonol.
-
Bydd hyn ar gael i garfanau Blwyddyn 10 sy'n dechrau ym mis Medi 2026.
-
Bydd 8 tasg 'fyw' mewn canolfannau. Ar gyfer y cymwysterau gwyddorau ar wahân, gall canolfannau ddewis o'r Gwyddorau (Dwyradd) neu o dasg wedi'i gosod ar gyfer pob un o'r cymwysterau gwyddorau ar wahân.
|
Y Gwyddorau (Dwyradd) |
Bioleg |
Cemeg |
Ffiseg |
Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) |
|
3 tasg (ymgeiswyr yn cwblhau 2) |
1 dasg neu dasg o'r Gwyddorau (Dwyradd) - ymgeiswyr yn cwblhau 1 |
1 dasg neu dasg o'r Gwyddorau (Dwyradd) - ymgeiswyr yn cwblhau 1 |
1 dasg neu dasg o'r Gwyddorau (Dwyradd) - ymgeiswyr yn cwblhau 1 |
2 dasg (ymgeiswyr yn cwblhau 1) |
Cefnogi athrawon a dysgwyr
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi athrawon a dysgwyr wrth i'r newid hwn fynd rhagddo. Bydd trosolwg o'r newidiadau i'r TGAU Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn rhan o'r sesiwn Holi ac Ateb a Briffio Cymwysterau ar-lein fyw ar 18, 19, 25 a 26 Tachwedd 2025.
Cynhelir sesiwn ar asesu'r ymholiad gwyddonol yn ystod y digwyddiadau Paratoi i Addysgu wyneb yn wyneb ledled Cymru ar gyfer TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) sy'n digwydd rhwng 9 Chwefror a 27 Mawrth 2026. Bydd y sesiwn hon hefyd yn berthnasol o ran y newidiadau i Uned 3 ar gyfer y TGAU Bioleg, Cemeg a Ffiseg presennol.
Cyn y digwyddiadau Paratoi i Addysgu, byddwn yn:
-
Cyhoeddi manylebau TGAU Bioleg, Cemeg a Ffiseg diwygiedig
-
Datblygu dogfen fapio sy'n dangos p'un ac ymhle mae testunau yn Unedau 1 a 2 y TGAU Bioleg, Cemeg a Ffiseg presennol i'w cael yn y TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) newydd, gan grynhoi'r newidiadau allweddol o ran ffocws; dylid defnyddio'r ddogfen hon ar y cyd â'r Canllawiau Addysgu cynhwysfawr ar gyfer y TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) newydd a fydd hefyd yn cael eu cyhoeddi cyn y digwyddiadau
-
Cefnogi addysgu a dysgu drwy dynnu sylw at yr amrediad llawn o adnoddau dysgu cyfunol a'u labelu'n glir ar gyfer y TGAU Bioleg, Cemeg a Ffiseg presennol, a'r TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) newydd.
Cefnogaeth ac arweiniad pellach
Mae timau ein pynciau yn parhau i fod wrth law i gefnogi canolfannau. Os oes angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad arnoch, cysylltwch â ni drwy gwyddoniaeth@cbac.co.uk