Canlyniadau TGAU ddim yr hyn roeddech chi'n ei ddisgwyl? Dyma beth i'w wneud nesaf

Os nad oedd eich canlyniadau TGAU yr hyn roeddech chi'n gobeithio ei gael, cymerwch anadl. Mae'n iawn teimlo'n siomedig, yn ddryslyd, neu'n rhwystredig. Ond nid dyma ben y daith. Mae digon o opsiynau o'ch blaenau o hyd, ac mae cefnogaeth ar gael i'ch helpu i ddod o hyd i'r llwybr cywir. 

Gadewch i ni fynd drwy beth gallwch chi ei wneud nesaf. 

 

Peidiwch â mynd i banig 

Efallai y bydd pethau'n teimlo'n ormod i chi ar hyn o bryd. Mae hynny'n hollol normal. Ond cofiwch, ni fydd hyn yn para am byth. Cymerwch ychydig o amser i glirio eich pen, siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo, a rhoi cyfle i chi'ch hun feddwl. Mae penderfyniadau’n haws i'w gwneud pan fyddwch chi'n dawel ac yn canolbwyntio. 

 

Opsiwn 1: Ailsefyll eich TGAU 

Os na wnaethoch chi basio pynciau allweddol fel Saesneg neu Fathemateg (Gradd C neu uwch), mae'n debyg y bydd yn ofynnol i chi eu hailsefyll. Mae'r rhan fwyaf o golegau a chweched dosbarth yn cynnig cefnogaeth ar gyfer hyn, felly peidiwch â phoeni, ni fyddwch chi ar eich pen eich hun. 

Efallai y byddwch chi hefyd yn ystyried ailsefyll pynciau eraill oherwydd rhesymau tebyg i'r isod:

  • Os na chawsoch chi'r graddau roeddech chi eu hangen o drwch blewyn 
  • Os ydych chi'n anelu at gwrs neu goleg penodol sydd angen marciau uwch 

Siaradwch â'ch ysgol neu'ch coleg i archwilio pa opsiynau ailsefyll sydd ar gael ac a yw’n benderfyniad cywir i chi. 

 

Opsiwn 2: Gofyn am ailfarcio 

Ydych chi'n meddwl nad yw eich canlyniad yn adlewyrchu sut gwnaethoch chi berfformio? Gallwch chi ofyn am adolygiad o'r marcio neu ailwiriad clerigol. Mae hyn yn golygu y bydd rhywun yn mynd dros eich papur eto i wirio am wallau neu anghysondebau. 

Pwysig:

  • Rhaid i geisiadau fynd drwy Swyddog Arholiadau eich ysgol 
  • Mae yna ddyddiad cau, felly peidiwch ag aros yn rhy hir 
  • Gall marciau fynd i fyny neu i lawr, felly gwnewch yn siŵr mai dyma'r penderfyniad cywir i chi cyn gwneud cais 


Opsiwn 3: Ailymgeisio i rywle arall
 

 

Os yw'r chweched dosbarth neu'r coleg o'ch dewis wedi dweud na yn seiliedig ar eich canlyniadau, nid yw hynny'n golygu bod pob drws ar gau. Efallai y byddwch chi'n gallu:

  • Gwneud cais i goleg neu chweched dosbarth gwahanol a fydd yn derbyn eich graddau 
  • Dechrau cwrs gwahanol sy'n fwy addas i'ch canlyniadau presennol 
  • Ailsefyll pynciau penodol ochr yn ochr â'ch cwrs newydd 

Gallai bod yn hyblyg gyflwyno cyfleoedd newydd nad oeddech wedi'u hystyried o'r blaen. 

 

Gofynnwch am help 

Nid oes rhaid i chi ddatrys hyn ar eich pen eich hun. Siaradwch ag:

  • Athro neu ymgynghorydd gyrfaoedd yn eich ysgol 
  • Eich rhieni neu'ch gofalwyr 
  • Y chweched dosbarth neu'r coleg rydych chi am ei fynychu 

Gallant eich tywys drwy'r broses hon, esbonio eich opsiynau, a'ch helpu i ddewis yr hyn sydd orau i chi. 


Nid yw un set o ganlyniadau yn diffinio eich dyfodol. Dim ond un rhan o daith llawer mwy ydyw. P'un a ydych chi'n bwriadu ailsefyll, ailymgeisio, neu gymryd llwybr newydd yn gyfan gwbl, mae yna amser o hyd, a chefnogaeth, i ddod i benderfyniad.
 

Beth bynnag yw eich camau nesaf, byddwch yn ymwybodol o'r canlynol: mae gennych chi opsiynau, ac mae gennych chi bobl sydd eisiau helpu. 

Mi fyddwch chi'n iawn.