Canlyniadau TGAU 2025: Beth sydd nesaf i chi?

Llongyfarchiadau! Mae cyfnod yr arholiadau wedi dod i ben, mae eich canlyniadau yn barod, a nawr daw'r cwestiwn mawr: “Beth dylwn i ei wneud nesaf?” 

P'un a ydych chi'n llawn cyffro neu'n teimlo ychydig yn ansicr, cofiwch mai dim ond dechrau eich taith yw hwn. Mae yna lwyth o opsiynau gwych o'ch blaenau, a bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy rai o'r prif lwybrau y gallwch chi eu cymryd ar ôl TGAU. 

 

Safon Uwch 

Cymwysterau Safon Uwch yw un o'r dewisiadau mwyaf poblogaidd ar ôl TGAU. Maen nhw'n gyrsiau dwy flynedd lle rydych chi'n astudio ymhellach i bynciau rydych chi'n eu mwynhau neu'n rhagori ynddynt – meddyliwch Fathemateg, Hanes, Bioleg, Seicoleg, a llawer mwy. 

Mae cymwysterau Safon Uwch yn gam gwych tuag at y brifysgol, ond maen nhw hefyd yn cadw eich opsiynau ar agor. Mae prentisiaeth neu lwybrau eraill yn dal i fod yn opsiynau yn nes ymlaen. Os ydych chi wrth eich bodd yn dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac eisiau canolbwyntio ar bynciau academaidd, gallai hwn fod y llwybr i chi. 

 

Cyrsiau Galwedigaethol 

Ydy'n well gennych chi ddysgu drwy wneud? Efallai y bydd cymwysterau galwedigaethol yn fwy addas i chi. Mae'r cyrsiau hyn yn rhai ymarferol, yn aml yn gysylltiedig â gyrfaoedd yn y byd go iawn fel:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol 
  • Busnes a Marchnata 
  • Peirianneg 
  • Gwyddor Feddygol 
  • TG a Chyfrifiadura 

Byddwch chi'n dal i ddysgu am theori, ond gyda mwy o ffocws ar sut i'w chymhwyso yn y byd go iawn. Gall cyrsiau galwedigaethol arwain at brifysgol, prentisiaethau, neu'n syth i'r gweithlu. 

 

Prentisiaethau 

Eisiau ennill cyflog tra byddwch chi'n dysgu? Mae prentisiaeth yn ffordd wych o ddechrau gweithio a hyfforddi ar yr un pryd. 

Byddwch chi'n treulio'r rhan fwyaf o'ch amser yn gweithio, yn dysgu sgiliau ymarferol, ac yn ennill cyflog. Byddwch chi'n astudio am gymhwyster cydnabyddedig am weddill yr amser. Mae prentisiaethau ar gael mewn llwyth o ddiwydiannau, o farchnata digidol i adeiladu, trin gwallt i gyllid. 

Ar ôl i'ch prentisiaeth ddod i ben, gallwch chi barhau i weithio, symud i brentisiaeth uwch, neu hyd yn oed wneud cais i'r brifysgol. 

 

Meddwl am ailsefyll? 

Os nad ydych chi wedi cael gradd C neu uwch mewn Saesneg neu Fathemateg, peidiwch â mynd i banig ond mae'n werth meddwl am ailsefyll. Mae'r pynciau hyn yn hanfodol ar gyfer llawer o opsiynau yn y dyfodol, gan gynnwys prentisiaethau, cyrsiau coleg, a swyddi. 

Bydd eich ysgol neu'ch coleg yn eich helpu i gynllunio eich camau nesaf, ac mae llawer o fyfyrwyr yn gwella eu graddau ar yr ail gynnig. 

 

Yn olaf 

Efallai y bydd hyn yn teimlo fel penderfyniad mawr, ond nid ydych chi ar eich pen eich hun. Siaradwch â'ch athrawon, ymgynghorwyr gyrfaoedd, rhieni, a ffrindiau. Gofynnwch gwestiynau. Cymerwch eich amser. 

Nid un llwybr "yw'r gorau", dim ond yr hyn sydd orau i chi. 

Beth bynnag yw eich canlyniadau, byddwch yn falch o ba mor bell rydych chi wedi dod. Mae gennych chi opsiynau, cefnogaeth, a dyfodol llawn posibiliadau o'ch blaenau. 

Pob lwc – mi fyddwch chi'n iawn!