
Canlyniadau Safon Uwch 2025: Beth sydd nesaf i chi?
Llongyfarchiadau, mae Diwrnod y Canlyniadau wedi cyrraedd! P'un a ydych chi wedi cwblhau Safon Uwch, Diplomâu Lefel 3, y Dystysgrif Her Sgiliau, y Project Estynedig, neu gymwysterau eraill, mae hon yn garreg filltir fawr.
Felly... beth sy'n dod nesaf?
P'un a ydych chi'n dathlu, ailasesu, neu'n dal i benderfynu, dyma rai llwybrau i'w hystyried gan eich bod wedi cyrraedd y groesffordd gyffrous hon.
Prifysgol
Os ydych chi wedi derbyn lle yn y brifysgol, llongyfarchiadau! Rydych chi ar fin archwilio pwnc rydych chi'n dwlu arno (gobeithio), cwrdd â phobl newydd, a dechrau siapio eich dyfodol.
Ond os yw eich cynlluniau wedi newid neu os na chawsoch chi'r canlyniadau roeddech chi'n eu disgwyl, peidiwch â phoeni – mae gennych chi opsiynau o hyd:
- Mae'r broses glirio ar agor – archwilio cyrsiau a allai fod yn fwy addas i chi.
- Mae mynediad gohiriedig neu flwyddyn i ffwrdd yn gwbl ddilys os oes angen amser arnoch i benderfynu.
- Gall cyrsiau sylfaen helpu i bontio'r bylchau i'r pwnc o'ch dewis.
Cofiwch: Mae mynd i’r brifysgol yn benderfyniad mawr. Gwnewch yn siŵr ei fod yn cyd-fynd â'ch diddordebau, nid disgwyliadau yn unig.
Ymuno â'r Byd Gwaith
Ydych chi'n barod i ennill cyflog a dysgu yn y byd go iawn? Mae'n amser gwych i ymuno â'r farchnad swyddi.
Gallech chi wneud y canlynol:
- Gwneud cais am rolau lefel mynediad mewn diwydiannau lle mae arnoch awydd gwybod mwy amdanynt
- Rhoi cynnig ar swyddi rhan amser neu dros dro i ennill profiad wrth i chi gynllunio eich camau nesaf
- Archwilio rhaglenni gadael yr ysgol sy'n cynnig hyfforddiant a dilyniant gyrfa
Gall y profiad rydych chi'n ei gael nawr siapio eich gyrfa yn y dyfodol, a bydd yn edrych yn wych ar eich CV.
Prentisiaethau Uwch
Ddim yn siŵr a ddylech chi weithio neu astudio? Beth am wneud y ddau?
Mae Prentisiaeth Uwch yn caniatáu i chi wneud y canlynol:
- Gweithio mewn swydd go iawn
- Ennill cymwysterau gwerthfawr (hyd at lefel gradd)
- Ennill cyflog wrth ddysgu
Mae'n ddewis gwych os yw'n well gennych chi ddysgu ymarferol ac eisiau osgoi dyled prifysgol.
Gwirfoddoli a Phrofiad Gwaith
Nid oes rhaid i bopeth ymwneud ag incwm uniongyrchol neu gymwysterau. Gall gwirfoddoli a phrofiad gwaith fod yr un mor werthfawr.
- Rhowch hwb i'ch datganiad personol os ydych chi'n gwneud cais i'r brifysgol yn hwyrach ymlaen
- Enillwch brofiad perthnasol sy’n bwysig i gyflogwyr
- Rhowch gynnig ar wahanol rolau a magwch hyder
Edrychwch ar elusennau lleol, projectau cymunedol, neu leoliadau tymor byr yn eich ardal chi.
Cymerwch Amser i Adfyfyrio
Pa bynnag lwybr rydych chi'n ei ddewis, gwnewch yn siŵr ei fod yn iawn i chi. Siaradwch ag:
- Athrawon neu diwtoriaid
- Ymgynghorwyr gyrfaoedd
- Ffrindiau a theulu
Y prif beth yw ymddiried yn eich greddf. Mae taith pawb yn edrych yn wahanol, ac nid oes unrhyw frys i gael y cyfan wedi'i ddatrys ar unwaith.
Mi fyddwch chi'n iawn
Dim ond y dechrau yw hwn. P'un a ydych chi'n mynd i'r brifysgol, yn ymuno â'r byd gwaith, yn dechrau prentisiaeth, neu'n gwneud penderfyniad cam wrth gam, rydych chi'n adeiladu eich dyfodol.
Llongyfarchiadau ar eich canlyniadau a phob lwc ar gyfer y cam nesaf!