Canllawiau newydd i sicrhau papurau arholiad hygyrch i ddysgwyr lliwddall
CBAC yw bwrdd arholi cyntaf y DU i ddatblygu canllaw sy'n amlinellu sut i gynhyrchu deunyddiau asesu hygyrch a chynhwysol ar gyfer dysgwyr lliwddall.
Ar ôl cydweithio â'r sefydliad nid-er-elw 'Colour Blind Awareness', mae'r canllawiau cynhwysfawr yn cynnig cyngor i’w ddefnyddio fel adnodd arfer gorau’ ar gyfer awduron papurau cwestiynau a staff ysgolion neu golegau sy'n gweithio ar asesiadau. Mae'r canllaw yn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr, yn esbonio sut gall defnyddio lliw mewn asesiad effeithio ar ymgeiswyr lliwddall, ac yn amlinellu'r camau ymarferol y gallwn eu cymryd i oresgyn yr heriau hyn.
Yn ogystal â chanllawiau ysgrifenedig, mae CBAC hefyd wedi cynnig pecyn o hyfforddiant, i ategu a sicrhau bod y canllawiau'n cael eu cymhwyso'n llwyddiannus.
Wrth sôn am y canllaw, dywedodd Sally Melhuish, Cyfarwyddwr Cynorthwyol CBAC: "Mae sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfle cyfartal wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'n bwysig ein bod yn herio ein hunain i feirniadu deunyddiau asesu, adnoddau, canllawiau a dogfennau eraill a gynhyrchwn yn wrthrychol, ac yn mynd ati i adolygu'r rhain drwy lygaid ein cynulleidfaoedd arfaethedig i ddileu rhagfarn, gwahaniaethu ac anfantais.”
Er bod y canllawiau hyd yma wedi'u targedu at awduron asesiadau, mae'r egwyddorion yn berthnasol i feysydd eraill o waith CBAC, a thrwy rannu arfer gorau eu nod yw codi ymwybyddiaeth o'r materion hyn a sicrhau bod y defnydd o liw yn holl adnoddau, cyfathrebu a chynnwys digidol CBAC yn hygyrch i bawb.
Dywedodd Kathryn Albany-Ward, Prif Weithredwr Colour Blind Awareness: “Mae lliwddallineb yn effeithio ar un o bob 12 bachgen ac un o bob 200 o ferched sy'n golygu yr effeithir ar o leiaf un dysgwr ym mhob ystafell ddosbarth yn ystadegol. Nid oes diagnosis gan y rhan fwyaf ohonynt, gan nad yw plant bellach yn cael eu sgrinio wrth ddechrau yn yr ysgol. Yn ogystal, nid yw athrawon wedi'u hyfforddi ar sut i adnabod a chefnogi eu myfyrwyr lliwddall. Er bod cefnogaeth Trefniant Mynediad cyfyngedig ar gael ar gyfer asesiadau, gan fod llawer o bobl lliwddall heb ddiagnosis mae'n hanfodol bod asesiadau wedi'u cynllunio i fod yn hygyrch o'r cychwyn cyntaf.
‘Mae canllaw CBAC yn adnodd gwych sydd nid yn unig yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r materion ymhlith awduron asesu, ond mae’n adnodd y gall sefydliadau eraill ei ddefnyddio, er enghraifft y rhai sy'n creu adnoddau addysgol ar-lein, gwerslyfrau a thaflenni ffeithiau. Gall hefyd gael ei ddefnyddio
gan athrawon yn uniongyrchol yn yr ystafell ddosbarth i addasu adnoddau anhygyrch. ‘Rydym yn hynod ddiolchgar i CBAC am gydnabod pwysigrwydd lliwddallineb mewn asesiadau ac am arwain y gwaith o greu asesiadau hygyrch i’r rhai hynny sy’n lliwddall.”
Digwyddiad lansio
Er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o liwddallineb a'r gefnogaeth sydd ar gael ymhellach, cynhaliodd Liz Twist AS ddigwyddiad lansio yn Neuadd San Steffan ar 14 Mehefin. Mynychwyd y digwyddiad gan Kathryn Albany Ward, ynghyd â Carly Hill-Banks, Cynghorydd Golygyddol a Hygyrchedd CBAC ac roedd yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol, ynghyd â chyfleoedd i Aelodau Seneddol ddarganfod yr adnoddau sydd ar gael i unigolion lliwddall.
Canllawiau am ddim
Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi ar wefan CBAC ac maent ar gael i bob ysgol a choleg am ddim.