Bwyta'n iach

Bwyta'n iach

Mae cefnogi ein system imiwnedd a sicrhau bod y corff ar ei orau er mwyn ymladd yn erbyn afiechyd o'r pwys mwyaf ar hyn o bryd. A beth sy'n digwydd? Cydbwysedd yw popeth!

Mae deiet cytbwys iach yn ein helpu i gynnal pwysau iach, yn helpu i leihau'r risgiau o ddatblygu afiechydon, ac mae bwyta'r bwyd iawn yn rhoi digon o egni i ni fod yn ffit, yn weithgar ac yn ein helpu i fwynhau bywyd.  

Mae pob un ohonom wrth ein boddau â 'diwrnod twyllo' ac ni ddylem wrthod ein hoff ddanteithion bob tro – ond cofiwch, cymedroldeb piau hi! Gwneud dewisiadau ffordd o fyw iach trwy fwyta bwydydd maethlon a chael digon o ymarfer corff a chwsg yw'r ffyrdd pwysicaf o hybu a chynnal system imiwnedd gref. 
 
Rhowch gynnig ar y bwydydd, fitaminau ac awgrymiadau llesiant canlynol er mwyn i chi deimlo ar eich gorau: 

Maetholion maethlon 

Mae fitamin A, C, sinc a haearn yn faetholion sylfaenol o ran cefnogi eich system imiwnedd. Maent yn helpu i gynyddu cynhyrchiad celloedd gwyn y gwaed ac maent yn wrthocsidyddion gwych. Ein hoff fwydydd sy'n llawn maetholion? 

  1. Fitamin C 
    Llenwch eich dysgl ffrwythau a'ch drôr llysiau â ffrwythau fel ciwis, orenau, mefus, mafon a llysiau lliwgar fel tomatos, pupurau a llysiau gwyrdd tywyll. 
  2. Fitamin A 
    Mae fitamin A yn fitamin hydawdd mewn braster sy'n chwarae rhan hanfodol yn cynnal y golwg, twf y corff, y ffordd mae’r system imiwnedd yn gweithio ac iechyd atgenhedlu. Felly, y tro nesaf y byddwch chi yn yr archfarchnad, gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu digon o wyau, llaeth, moron, tatws melys, pwmpen, llysiau deiliog gwyrdd tywyll a sbigoglys. ​​
  3. Sinc 
    Mae sinc yn fwyn hanfodol nad yw eich corff yn ei greu ar ei ben ei hun, felly mae'n bwysig cael digon ohono yn eich deiet. Mae sinc i'w gael yn naturiol mewn amrywiaeth o fwydydd, fel cig, pysgod cregyn, pwmpen, hadau cywarch a sesame, cnau cashiw, cnau pîn, wyau, cêl, grawn cyflawn, madarch a siocled tywyll neu goco... Hwrê! 
  4. Haearn 
    Mae haearn yn faetholyn hanfodol; mae'n helpu i gludo ocsigen drwy'r corff. Mae wyau, cnau cashiw, almonau, cig coch, hadau pwmpen a blodau'r haul, tofu neu tempe, corbys, ffa, ffacbys, reis brown a cwinoa yn ffynonellau gwych o haearn. 

Bwytwch frecwast

Mae brecwast yn aml yn cael ei alw'n 'bryd pwysicaf y dydd', ac am reswm da. Mae brecwast yn helpu i ailgyflenwi eich glwcos, gan gynyddu eich lefelau egni a'ch helpu i deimlo'n fwy effro. Heb danwydd yn y bore rydych chi'n rhedeg ar danc gwag - does ryfedd eich bod chi'n cael trafferth canolbwyntio! Yn ddelfrydol, argymhellir bwyta o fewn dwy awr i ddeffro, ac mae hyn yn gwella'r cof, lefelau canolbwyntio, a'n hwyliau. 
 
Ddim yn berson brecwast? Beth am roi cynnig ar... Smwddis! Mae smwddis yn ffordd syml a blasus o gyflwyno fitaminau a mineralau i'ch deiet. Mae rhai ffrwythau, llysiau a pherlysiau yn arbennig o uchel mewn polyffenolau – cyfansoddion planhigion sydd â manteision iechyd amrywiol, gan gynnwys cydbwyso imiwnedd. Ein hoff gynhwysion ni? Grawnffrwyth, aeron a sinsir! 

Trio Tyrmerig

Mae'r llysieuyn arbennig hwn (o'r teulu sinsir), yn wrthocsidydd, yn cydbwyso imiwnedd, yn wrthlidiol, sydd hefyd yn gwella treulio braster ac yn helpu i ddadwenwyno'r afu! Beth sydd ddim i'w hoffi? Peidiwch ag anghofio ychwanegu pinsiad o bupur du wrth goginio gyda thyrmerig er mwyn helpu gydag amsugniad. 

Fitamin yr Heulwen

Meddwl tybed pam rydych chi'n teimlo'n flinedig heddiw? Ydych chi wedi bod allan yn yr awyr agored eto? Yn union. Mae golau naturiol yn rhoi hwb i storfa fitamin D eich corff ac yn cynyddu'r lefelau serotonin yn yr ymennydd. Mae hefyd yn helpu'r corff i amsugno calsiwm a ffosffad o'n deiet – mineralau sy'n bwysig ar gyfer esgyrn, dannedd a chyhyrau iach. Felly, beth bynnag fo'r tywydd, gwisgwch eich dillad gwlanog ac ewch allan. 
 
Mae fitamin D yn hanfodol i'n system imiwnedd! Yn ystod misoedd y gaeaf, dydyn ni ddim yn cael digon o fitamin yr heulwen, a dylem fwyta bwydydd sy'n llawn Fitamin D yn rheolaidd fel wyau, pysgod olewog, madarch a chig coch. 

Yfwch ddŵr!

Dydyn ni ddim yn yfed hanner cymaint o ddŵr ag sydd ei angen ar ein cyrff, ac yn y gaeaf, rydym yn tueddu i yfed llai fyth! Mae bod wedi hydradu'n dda yn hanfodol i sicrhau bod pob system yn ein cyrff yn gweithredu'n iach – o'r galon i'r ymennydd. Ond oeddech chi'n gwybod, gall hydradu hefyd leddfu cur pen, hwyliau drwg a syrthni? Felly, ewch amdani! Trowch y tap ymlaen ac yfwch!   

Popeth yn gymedrol

Mae gan bob un ohonom ein gwendidau, p'un a yw'n bentwr o grempogau â siocled wedi'i arllwys drostynt, neu pizza tecawê gyda'r topins i gyd. A does dim byd o'i le ar fwynhau'r pwdinau blasus a'r danteithion anhygoel hyn. Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn yfed ac yn bwyta'n gyfrifol. Gall bwyta gormod o fwydydd wedi'u prosesu, sy'n cynnwys llawer o omega 6 a siwgr fel arfer, achosi llidio.

Cymerwch ofal o'ch hun 

Cofiwch, mae ein corff a'n meddwl yn gysylltiedig. Bwytwch fwyd maethlon, yfwch fwy o ddŵr, byddwch yn weithgar a mwynhewch eich cwsg. Sylwch ar ba weithredoedd iach sy'n codi eich hwyliau a gwnewch fwy ohonyn nhw.