Ben Newby, Cyfarwyddwr Gweithredol: Digidol a Thrawsnewid i roi’r brif araith yng nghynhadledd deallusrwydd artiffisial (DA)

Ben Newby, Cyfarwyddwr Gweithredol: Digidol a Thrawsnewid i roi’r brif araith yng nghynhadledd deallusrwydd artiffisial (DA)

Bydd Ben yn ymuno â phanel o addysgwyr uchel eu parch i roi’r brif araith mewn digwyddiad Fforwm Polisïau Cymru i drafod dyfodol DA mewn addysg yng Nghymru.

Mewn sylw ar gymryd rhan yn y gynhadledd flaenllaw hon, dywedodd Ben Newby, Cyfarwyddwr Gweithredol: Digidol a Thrawsnewid: "Mae Deallusrwydd Artiffisial yn bwnc llosg, sy'n effeithio ar amrywiaeth o feysydd o wleidyddiaeth i gerddoriaeth, ond yn fwyaf perthnasol, addysg. Er bod risgiau clir yn gysylltiedig â'r datblygiad hwn, rhaid i ni fabwysiadu safbwynt cytbwys ac archwilio cyfleoedd y feddalwedd hon.

Wrth i'n system addysg esblygu, felly hefyd mae'r adnoddau sydd ar gael i athrawon a dysgwyr. Ynfy mhrif araith, fy nod yw archwilio'r risgiau, ystyriaethau moesegol, a'r cyfleoedd y mae DA yn eu cyflwyno i ni. Byddaf yn ystyried y camau y gallwn eu cymryd i liniaru risgiau, tra hefyd yn ystyried sut y gallwn wella'r profiad addysgu a dysgu.

Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â chynrychiolwyr ac archwilio'r maes ddiddorol hwn."

Bydd Ben yn arwain sesiwn o'r enw 'Defnydd diogel a moesegol o DA a'i effaith ar gymwysterau yng Nghymru', lle bydd yn archwilio sut y gall CBAC gynnal uniondeb ein hasesiadau, wrth alluogi athrawon a dysgwyr i ddefnyddio'r offeryn sy’n datblygu hwn yn ddiogel.


Cynnwys y Gynhadledd

Bydd y gynhadledd ar-lein yn cael ei chynnal ddydd Mercher 3 Gorffennaf a bydd yn asesu'r camau nesaf ar gyfer rôl deallusrwydd artiffisial yn y sector addysg ac ysgolion yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys prif sesiynau gan Lloyd Hopkin, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cwricwlwm ac Asesu, Llywodraeth Cymru a Dean Seabrook, Uwch Reolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru.

Bydd cynrychiolwyr yn trafod y cyfleoedd a'r heriau a ddaw yn sgil DA yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal ag asesu a marcio, gan gynnwys modelau iaith mawr, fel ChatGPT a Google Bard.

I archebu eich lle, ewch i wefan Fforwm Polisïau Cymru.