Asesiadau Haf 2021

Asesiadau Haf 2021 yng Nghymru: Cyhoeddiad Kirsty Williams

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, sut y bydd trefn ddyfarnu TGAU ac UG/Safon Uwch yn gweithio yn haf 2021. Penderfynodd y Gweinidog na fydd arholiadau diwedd blwyddyn ar gyfer dysgwyr sy'n cymryd cymwysterau TGAU, UG na Safon Uwch.

Yn ei datganiad, cynigiodd y Gweinidog y canlynol:

  • bod Llywodraeth Cymru, yn lle arholiadau, yn bwriadu gweithio gydag ysgolion a cholegau er mwyn mynd ymlaen ag asesiadau wedi'u rheoli gan athrawon,
  • y dylai hyn gynnwys asesiadau i'w gosod a'u marcio'n allanol ond i'w darparu yn yr ystafell ddosbarth dan oruchwyliaeth athrawon.
  • mae hi'n disgwyl i'r gwaith hwn fod yn sail i ganlyniadau canolfannau a fydd yn gysylltiedig â dull a gytunwyd yn genedlaethol er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru.

Yn CBAC, deallwn y sialensiau heb eu hail sy'n wynebu athrawon yng Nghymru ac rydym yn cydnabod hefyd bod y sefyllfa bresennol yn dal i effeithio'n sylweddol ar ddysgwyr sydd i fod i gwblhau cymwysterau’r haf nesaf.

Ein rôl ni fydd gweithio'n agos gydag arweinwyr ysgolion a cholegau, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac yn dilyn cyngor Cymwysterau Cymru er mwyn sicrhau bod graddau cymwysterau'n parhau i fod yn rhai dilys, cywir a theg i ddysgwyr.

Mae'n hanfodol dyfarnu cymwysterau i'n dysgwyr sy'n eu galluogi i symud ymlaen i'r lefel nesaf, sydd o'r un gwerth â'r TGAU a Safon Uwch a gymerir gan ddysgwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Ein hymrwymiad yw cynnal y safonau uchaf, a byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda Cymwysterau Cymru er mwyn sicrhau bod y cymwysterau a ddyfarnwn haf nesaf yn cyfateb yn llawn â'u gofynion rheoleiddio.

Unwaith y bydd y penderfyniad terfynol wedi'i gadarnhau, bydd ein timau wrth law yn yr wythnosau i ddod i gynnig pecyn cynhwysfawr o hyfforddiant ac adnoddau i athrawon i'w cefnogi yn ystod y flwyddyn brysur i ddod.

SYLWER: Nid yw'r cyhoeddiad hwn yn berthnasol i gymwysterau TAG a TGAU wedi'u hachredu gan Ofqual. Hefyd, nid yw'n berthnasol i gymwysterau galwedigaethol sy'n cael eu cymryd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gwerthfawrogwn eich holl amynedd yn ystod y cyfnod hwn. Cewch wybod y diweddaraf unwaith y bydd y wybodaeth honno ar gael i ni. Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion, y wybodaeth a'r gefnogaeth ddiweddaraf.