Anrhydeddu Talent Newydd y byd Gwneud Ffilmiau yng Ngwobrau Delwedd Symudol CBAC Eduqas
Dathlwyd myfyrwyr ffilm a chyfryngau talentog o bob cwr o'r DU yn 12fed seremoni flynyddol y Gwobrau Delwedd Symudol a gynhaliwyd yn y British Film Institute yn Llundain.
Wedi'u lansio yn 2014 mewn partneriaeth â'r British Film Institute, mae'r Gwobrau Delwedd Symudol yn dathlu gwaith delwedd symudol rhagorol gan fyfyrwyr sy'n astudio cymwysterau Ffilm a Chyfryngau Eduqas.
Roedd categorïau gwobrau 2026 yn cynnwys Ffilm Fer, Fideo Cerddoriaeth, Sgript Ffilm, Darn o Ffilm/Teledu, Animeiddiad, Un i'w Wylio a Gwobr Rheithgor Myfyrwyr.
Ymgasglodd darpar gyfarwyddwyr, sgriptwyr a chynhyrchwyr ifanc gyda'u teuluoedd a'u hathrawon balch i ddathlu'r gwaith rhyfeddol a gynhyrchwyd yn ystod eu proses gymhwyso, gan gynnwys gwaith Jacob Ellis o Wales High School yn Sheffield, a enillodd y Wobr Rheithgor Myfyrwyr yn ogystal â dod yn ail yn y categori Darn o Ffilm/Teledu.

Enillodd Jacob y Wobr Rheithgor Myfyrwyr am ei ddarn o ffilm o'r enw 'The Mystery of Jane Edwards', sy'n dilyn podlediwr sy'n ymchwilio i ddiflaniad ffigwr lleol adnabyddus. Cynhyrchwyd y darn o ffilm yn arddull rhaglen ddogfen sy'n mynd y tu ôl i lenni'r podlediad.
Canmolodd y beirniaid Jacob am ei olygu medrus yn ogystal â'i saethiadau agos, gan dynnu sylw at y defnydd o saethiadau du a gwyn a saethiadau lliw cyferbyniol.
Dywedon nhw fod y podlediwr wedi'i bortreadu'n dda yn y saethiadau ar y lleoliad, gyda synau atmosfferig wedi'u hychwanegu. Yn olaf, dywedodd y beirniaid fod y strwythur naratif yn gymhleth ond yn gweithio'n dda.
![]() |
|
Aeth mwy o wobrau i:
Ffilm Fer
Dyfarnwyd y brif wobr i Gleb Glazunov o DLD College yn Llundain yn y categori Ffilm Fer am y project o'r enw 'Shadow of Paradise’. Mae'r ffilm fer yn cynnwys dyn ifanc sy'n dychwelyd adref i weld ei deulu ond sy'n cael ei arswydo gan ysbryd rhyfedd.
Canmolodd y beirniaid Gleb am greu ffilm fer uchelgeisiol swreal gyda sylw eithriadol i fanylion o fewn y mise-en-scène. Nododd y beirniaid sut roedd y ffilm fer yn dechnegol hyderus ac wedi'i golygu'n glyfar i archwilio naratif oriog a dirgel.
Fideo Cerddoriaeth
Dyfarnwyd y brif wobr i Charlotte Mack o Burnley College yn Swydd Gaerhirfryn yn y categori Fideo Cerddoriaeth am ei phroject o'r enw 'One of those crazy girls’. Mae'r gerddoriaeth yn cynnwys band indie roc ffuglennol benywaidd, Velvet. Mae'r fideo yn arddangos perfformiadau hynod egnïol a naratif craff, doniol am berthnasoedd.
Nododd y beirniaid sut roedd y fideo cerddoriaeth yn gynhyrchiad llwyddiannus, wedi'i lunio'n dda gyda ffocws rhagorol ar berfformiad a chynrychioliadau adfywiol. Canmolwyd Charlotte am ei rheolaeth ardderchog wrth ffilmio a golygu a'i defnydd diddorol o'r motiff ffôn drwy gydol y cynhyrchiad.
Sgript ffilm
Dyfarnwyd y brif wobr i Jacob Pattison o Bilborough College yn Nottingham yn y categori Sgript ffilm am y project o'r enw 'A Date with Deja-Vu’.
Mae'r sgript ffilm yn dilyn merch ifanc sy'n cael ei dal mewn dolen amser aml-fydol yn ystod dêt gwaethaf ei bywyd, ac yn cael ei lladd mewn senarios cynyddol hurt. Bob tro mae hi'n marw, mae rhywbeth am y ddolen yn newid. Canmolodd y beirniaid naws gyflym y sgript ffilm gan nodi sut mae'r digwyddiadau, ar adegau, yn wirioneddol ddoniol.
Darn o Deledu/Ffilm
Dyfarnwyd y brif wobr i Toby Widdows o Taunton Exam Centre yng Ngwlad yr Haf yn y categori Darn o Ffilm/Teledu am ei broject o'r enw 'The Remaining One’. Mae'r darn yn ddilyniant agoriadol o ffilm ffuglen wyddonol antur dystopaidd/apocalyptaidd.
Canmolodd y beirniaid Toby am greu darn teimladwy sy'n gwneud i chi feddwl ac sy'n ymgorffori'r confensiynau ffuglen wyddonol mewn ffordd greadigol a dilys. Nododd y beirniaid fod y trosleisio yn adeiladu naratif clir ac effeithiol.
Animeiddio
Dyfarnwyd y brif wobr i Ruby Dutton o Newcastle-Under-Lyme College yn Swydd Stafford yn y categori Animeiddio am y project o'r enw 'Little Old Me’. Mae'r ffilm wedi'i hanimeiddio yn ymwneud â phrofiad cymeriad o dyfu i fyny a'i ymdeimlad o golli ei ieuenctid wrth i gyffredinrwydd bywyd o ddydd i ddydd ei lethu, gan ddyheu am amser symlach lle nad oedd ei agwedd at fywyd wedi'i lygru gan realiti oedolaeth.
Dywedodd y beirniaid fod hon yn ffilm hyfryd animeiddiedig a pherthnasol am dyfu i fyny a cholli ieuenctid. Fe wnaethant ganmol y gwneuthurwr ffilmiau am ymgorffori gwahanol arddulliau animeiddio yn dda i gyfleu bywydau cyfochrog y cymeriad.
Un i'w Wylio
Dyfarnwyd y wobr Un i'w Wylio i Harley Firth o Wales High School yn Sheffield a daeth hefyd yn ail yn y categori Ffilm Fer am y project o'r enw 'Keep Me In The Loop’. Mae'r ffilm fer hon yn dilyn merch o'r enw Olivia sydd wedi cael ei hun yn y sefyllfa anarferol o ail-fyw'r un diwrnod drosodd a throsodd.
Canmolwyd Harley gan y beirniaid am strwythur, golygu a sinematograffi ardderchog. Nododd y beirniaid ei bod yn ffilm fer anhygoel o dda, sy'n arddangos lefel uchel o hyder a chymhwysedd technegol.
Canmoliaeth gan dîm Eduqas
![]() |
|
“Hoffem ddiolch i'n beirniaid, a luniodd rhestri byr ac a gafodd trafodaethau anodd iawn i benderfynu ar yr enillwyr, oherwydd safon eithriadol o uchel y ceisiadau.
“Diolch hefyd i athrawon, rhieni a gwarcheidwaid am eu hanogaeth a'u cefnogaeth barhaus i feithrin talent ifanc y maes ffilm a chyfryngau.”
![]() |
|
“Wrth i'r diwydiant ffilm a chyfryngau barhau i dyfu, mae'n bwysig hyrwyddo talent newydd ymysg myfyrwyr. Mae'r syniadau a welwyd yn y gwobrau hyn yn dangos pa mor ddisglair yw'r dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld ble fydd y gwneuthurwyr ffilmiau ifanc hyn yn mynd â'u talentau nesaf."
I gael rhagor o wybodaeth am y Gwobrau Delwedd Symudol, ewch i: https://www.gwobraudelweddsymudol.co.uk/


