Addasiadau i Asesiadau ein cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau cyffredinol eraill yn Haf 2021

Addasiadau i Asesiadau ein cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau cyffredinol eraill yn Haf 2021

Diweddariad Cymwysterau Galwedigaethol: Addasiadau ar gyfer Lefel 1/2 a Lefel 3 nawr ar gael

 

Rydym yn ymwybodol bod llawer ohonoch chi'n aros i glywed gwybodaeth am Addasiadau i asesiadau ein cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau cyffredinol eraill ar gyfer Haf 2021.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r rheoleiddwyr cymwysterau, sefydliadau dyfarnu eraill a rhanddeiliaid y sector i gwblhau'r Addasiadau cyn gynted â phosibl. Mae Ofqual ar hyn o bryd yn ymgynghori ynghylch y paramedrau a'r gofynion ar gyfer Addasiadau i Gymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol (VTQs) yn haf 2021. Dylai'r ymgynghoriad hwn ddod i ben ar 20 Medi ac rydym yn annog ein holl ganolfannau a'n rhanddeiliaid i ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Disgwylir y cyhoeddir canlyniadau'r ymgynghoriad ar ddechrau mis Hydref.

Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi manylion yr Addasiadau rydym yn bwriadu eu gwneud i asesiad ein cyfres o Dystysgrifau Lefel Mynediad yn Haf 2021. Mae'r Addasiadau hyn wedi'u cyhoeddi yn ddibynnol ar ganlyniadau ymgynghoriad Ofqual ac rydym wedi croesawu sylwadau pellach gan athrawon a staff canolfannau i sicrhau eu bod yn briodol i gynorthwyo â lliniaru effaith y pandemig Covid-19.

Byddwn yn cyhoeddi manylion pellach ar yr Addasiadau arfaethedig i Ddyfarniadau Galwedigaethol Lefel 1/2, Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol Lefel 3 a Chymwysterau Cyffredinol Lefel 1 a 2 eraill yr wythnos nesaf. Cyhoeddir y manylion hyn i ganolfannau drwy'r wefan ddiogel a hysbysir canolfannau drwy ein cylchlythyrau, bwletinau pwnc a'r cyfryngau cymdeithasol.

Diolch yn fawr iawn i chi am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn.