Addasiadau arfaethedig i gymwysterau TAG CBAC yn haf 2021
Rydym yn ymwybodol y bydd cau'r ysgolion a cholegau wedi effeithio ar y dysgwyr hynny sy'n gweithio tuag at eu cymwysterau Safon Uwch yn haf 2021. Deallwn hefyd fod yr amharu ar yr addysgu a'r dysgu yn heriol i'r canolfannau a'r dysgwyr fel ei gilydd.
O ganlyniad, rydym wedi bod yn cydweithio'n agos â Cymwysterau Cymru er mwyn ystyried pa addasiadau y byddai'n briodol eu gwneud i'n cymwysterau Safon Uwch. Rydym wedi bod yn cyd-drafod â grwpiau ffocws o athrawon o wahanol rannau o Gymru gyda'r bwriad o lunio cynigion ar gyfer addasiadau i'w gwneud i'r Safon Uwch ar gyfer 2021. Hoffem yn awr ymgynghori'n ehangach ynghylch yr addasiadau arfaethedig hyn. Mae ystyriaeth wedi'i rhoi hefyd i wneud rhai mân addasiadau i'r UG, oherwydd canllawiau'r llywodraeth yn ymwneud ag ymbellhau cymdeithasol.
Rydym wedi llunio llyfryn pynciol sy'n amlinellu'r holl addasiadau arfaethedig, a'r egwyddorion sy'n sail i'r broses hon – gallwch weld y ddogfen hon ar ein gwefan ddiogel yma.
Mae eich barn yn bwysig i ni, ac rydym yn eich annog chi a'ch timau i rannu eich safbwyntiau am ein cynigion drwy gwblhau ein harolwg. Ni ddylai'r arolwg gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau a gellir ei weld drwy ddilyn y cyswllt yma. Os ydych yn bwriadu ymateb i fwy nag un cynnig pwnc, bydd angen i chi gwblhau'r arolwg ar gyfer pob pwnc yr ydych yn ymateb iddo.
Ein bwriad yw cadarnhau manylion yr addasiadau erbyn yr wythnos yn dechrau 3 Awst 2020. Gofynnwn i chi felly a fyddech cystal â chwblhau'r arolwg hwn erbyn 19 Gorffennaf.