A oes gennym weithlu STEM ar gyfer y dyfodol?

A oes gennym weithlu STEM ar gyfer y dyfodol?

Rydym yn falch iawn o gael arddangos yn nigwyddiad Gwyddoniaeth a'r Senedd eleni!

Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Mehefin 2023
Amser: 12.00 - 19.00
Lleoliad: Neuadd ac Oriel, Senedd a Pierhead

Trefnir y digwyddiad Gwyddoniaeth a’r Senedd blynyddol, sydd bellach yn ei 19eg flwyddyn, gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, a hynny ar ran, ac ar y cyd â’r gymuned gwyddoniaeth a pheirianneg yng Nghymru.

Bydd y thema ar gyfer 2023 yn seiliedig ar STEM yn gyrru'r economi.

Mae Gwyddoniaeth a'r Senedd yn gyfle mor wych i feithrin cysylltiadau agos â rhanddeiliaid allweddol, rhwydweithio â chynrychiolwyr ac arddangoswyr, ac archwilio sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â heriau a chanolbwyntio ar botensial gwyddoniaeth ac arloesi yng Nghymru.

Dyma Helen Francis, Arweinydd Parth Mathemateg a Gwyddoniaeth, yn sôn am ein cyfranogiad: "Mae Gwyddoniaeth a'r Senedd yn ddigwyddiad allweddol yn ein calendr! Bob blwyddyn, mae'r digwyddiad yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau diddorol ac ysbrydoledig. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan arbenigwyr STEM a rhannu ein cyffro gyda chynrychiolwyr ynghylch datblygu ein cyfres newydd o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth deinamig a diddorol, i gefnogi'r Cwricwlwm newydd i Gymru."

 I ddysgu mwy ac i weld y rhestr lawn o siaradwyr ewch yma.