3 syniad/strategaeth ymarferol ar gyfer dysgu ac adolygu

3 syniad/strategaeth ymarferol ar gyfer dysgu ac adolygu

’Talpio’ 

Ydy meddwl am adolygu yn eich dychryn chi? 

Rhowch gynnig ar y dull ‘Talpio’!  

‘Talpio’ yw torri un testun mawr yn sawl testun llai, haws eu trin. 

Yn hytrach na gwneud un marathon hir o adolygu, gallwch ei rannu'n adrannau llai. Er enghraifft, mewn awr, dechreuwch drwy edrych dros eich nodiadau am 10 munud, yna ewch ati yn syth i ddau weithgaredd 15 munud o hyd – gweithgaredd cardiau fflach neu gwis, efallai. Yna gorffennwch drwy grynhoi am 10 munud ar y diwedd – marciwch eich cwis i weld lle mae angen i chi wella a lle roeddech chi wedi gwneud yn dda. Mae'n cadw pethau'n ddiddorol ac mae'n eich helpu i gofio gwybodaeth bwysig. 

Y peth pwysicaf yw addasu eich sesiynau adolygu i weddu i'r ffordd rydych chi'n dysgu, a chofiwch gymryd digon o egwylion byr drwyddi draw. 

 

Dysgu drwy Naratif 

Gall defnyddio straeon fel adnodd fod yn ddefnyddiol wrth adolygu. Mae trawsnewid gwybodaeth yn naratif, neu stori, yn darparu strwythur a threfn naturiol o ran amser. Gallai hyn olygu ei bod yn haws cofio'r manylion. 

Gallech chi roi cynnig ar y canlynol: 

  • Crynodebau stribed comig: Gallwch chi greu stribedi comig i grynhoi cysyniadau neu ddigwyddiadau allweddol. Gall pob ffrâm o'r comig gynrychioli pwynt neu syniad penodol. Defnyddiwch swigod siarad ac elfennau gweledol i nodi'r wybodaeth mewn ffordd sy'n weledol ddifyr. Mae gan bawb ei ffordd orau ei hun o gofio gwybodaeth orau, ac mae stribedi comig yn addas ar gyfer arddulliau dysgu gweledol a thestunol. Rhowch gynnig arni!  
  • Cadwyni Achosiaeth: Mae cadwyn achosiaeth yn swnio'n gymhleth, ond math o fap meddwl ydyw sy'n dangos achosion ac effeithiau sy'n cysylltu digwyddiadau neu gysyniadau gwahanol mewn trefn. Gall gwneud cadwyn eich helpu chi i ddeall y perthnasoedd rhwng elfennau gwahanol a gall helpu'r wybodaeth i aros yn eich cof fel stori. 

  • Cardiau Fflach yn seiliedig ar straeon: Yn hytrach na chardiau fflach traddodiadol, rhowch gynnig ar greu cardiau fflach sy'n seiliedig ar straeon. Gall pob cerdyn fflach gynnwys cwestiwn neu gysyniad ar un ochr a naratif byr neu stori fer sy'n ymwneud â'r cysyniad hwnnw ar yr ochr arall. Gall cysylltu gwybodaeth â stori helpu gyda chofio yn ystod adolygu. Addaswch eich cardiau fflach eich hunain gan ddefnyddio ein templed yma. 

 

Defnyddiwch y Cynllun Marcio  

Gall cyn-bapurau a chynlluniau marcio fod yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig os ydych chi'n eu defnyddio nhw gyda'i gilydd. Ewch ar dudalen we'r pwnc ar wefan CBAC neu gofynnwch i'ch athro roi rhywfaint o gyn-bapurau a chynlluniau marcio i chi. 

Ar ôl i chi ddysgu testun, ategwch eich dysgu drwy brofi'ch hun â chwestiynau o gyn-bapurau, gan ddefnyddio'r cynllun marcio fel canllaw o ran beth i'w gynnwys. Mae'n bwysig gweithio ar eich gwybodaeth am y pwnc a'ch techneg arholiad, ac mae hyn yn ffordd dda o uno'r ddau. 

Os ydych chi'n parhau i fod yn ansicr a yw eich ateb yn bodloni meini prawf y cynllun marcio, gofynnwch i'ch athro fynd drwyddo gyda chi i berffeithio eich techneg arholiad. Ydych chi'n adolygu gartref? Cymerwch olwg ar yr 'Arweiniad i'r Arholiad' ar ein gwefan adnoddau digidol.Gan ddefnyddio cwestiynau o gyn-bapurau arholiad, bydd yr adnoddau hyn yn cynnwys cymorth sain a sgript yn y nodiadau, yn eich 'arwain' drwy ffug bapur arholiad, gan eich helpu i adolygu ac ymarfer technegau arholiad defnyddiol. Gallwch gwblhau'r 'ffug' arholiad mewn un sesiwn, meistroli un neu ddau o gwestiynau ar y tro, neu ailedrych ar rai rhannau o'r cyflwyniad er mwyn atgyfnerthu'r hyn a ddysgwyd.