UG/Safon Uwch Technoleg Ddigidol
Mae Adnoddau a Deunyddiau Enghreifftiol nawr ar gael ar Porth.
Mae cymhwyster TAG UG a Safon Uwch CBAC mewn Technoleg Ddigidol yn meithrin dealltwriaeth dysgwyr o'r technolegau digidol a ddefnyddir gan unigolion a sefydliadau dros y byd, gan gynnwys sut maent wedi datblygu a sut maent yn parhau i newid.
Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i feithrin dealltwriaeth ddofn o'r ffyrdd y mae datblygiadau arloesol mewn technoleg ddigidol, a'r lefelau cynyddol o gysylltedd rhyngddynt, yn effeithio ar fywydau'r rhai sy'n eu defnyddio ac ar y gymdeithas ehangach.
Bydd dysgwyr hefyd yn meithrin sgiliau ymarferol wrth ddatblygu cynhyrchion digidol creadigol a datrysiadau digidol i broblemau a wynebir gan sefydliadau, gan gefnogi eu cynnydd tuag at gyflogaeth mewn gyrfa sy'n defnyddio technolegau digidol neu at raglen addysg uwch sy'n ymwneud รข thechnolegau digidol.


Mai