Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch
Dyfarnwyd y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch am y tro olaf yn haf 2024. Bydd cyfle ailsefyll yn unig yn haf 2025 i ymgeiswyr sydd wedi cyfnewid y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yn haf 2024 neu cyn hynny. Gall ymgeiswyr ailsefyll cydrannau a chyfnewid y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch eto. I gyfnewid am y Dystysgrif Her Sgiliau mae angen cyfnewid hefyd am y cymwysterau Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, os yw ymgeisydd wedi cyflawni'r Dystysgrif Her Sgiliau yn flaenorol ac yn disgwyl canlyniadau cymwysterau ategol er mwyn cyflawni'r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, gellir cyfnewid am y Cymhwyster ar ei ben ei hun.
Bydd Adroddiadau’r Uwch Arholwyr ac Uwch Gymedrolwyr yn cael eu rhyddhau ar 30ain Medi 2025, ac eithrio’r TGAU Cymraeg Iaith, TGAU Saesneg Iaith, TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg - Rhifedd. Rhyddhawyd yr adroddiadau hyn ar 1af Medi 2025. Bydd yr holl adroddiadau ar gyfer cyfresi arholiadau Tachwedd ac Ionawr yn cael eu rhyddhau ar ddiwrnodau’r canlyniadau fel arfer.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma >
Mae'r fanyleb hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr gyflawni dau gymhwyster: Bagloriaeth Cymru Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau Uwch
Bagloriaeth Cymru Uwch
![]() |
Bagloriaeth Cymru Uwch I ennill y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch, mae'n rhaid i ddysgwr gwblhau pob elfen ar yr olwyn. Dyfernir y cymhwyster fel gradd Llwyddo pan fydd dysgwr wedi llwyddo yn y Dystysgrif Her Sgiliau a'r holl Gymwysterau Ategol. Mae'n dangos, yn yr un lle, gallu academaidd a chymhwysedd sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. |
Tystysgrif Her Sgiliau Uwch
Cynlluniwyd y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch i alluogi dysgwyr i ennill a chymhwyso amrywiaeth o sgiliau Hanfodol a Chyflogadwyedd mewn lleoliadau a chyd-destunau gwahanol sy'n rhoi addysg ehangach i ddysgwyr. Bydd yn cynnig profiadau i gefnogi pynciau eraill a fydd yn golygu bod dysgwyr yn fwy parod i symud ymlaen yn y dyfodol – i'r brifysgol, hyfforddiant pellach neu i gyflogaeth.
Mae 4 cydran i'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch:
- Project Unigol (50%)
- Her Menter a Chyflogadwyedd (20%)
- Her Dinasyddiaeth Fyd-eang (15%)
- Her y Gymuned (15%)
I ennill y cymhwyster, mae'n rhaid i ddysgwyr lwyddo yn yr holl gydrannau. Caiff y marciau eu hadio at ei gilydd i roi gradd A* – E, sy'n gyfwerth â graddau Safon Uwch. Y radd hon neu'r pwyntiau tariff UCAS cyfatebol fydd yn cael eu cynnwys mewn cynigion gan brifysgolion.
Mae'r 7 sgìl yn ymwneud â chymhlethdod; maent yn amlweddog, gan gynnwys llawer o rannau gwahanol ond cysylltiedig.
Llythrennedd |
Y gallu i fynegi syniadau cymhleth yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan addasu iaith a therminoleg mewn ffordd sy'n briodol i'r gynulleidfa |
Rhifedd |
Y gallu i goladu, dadansoddi a chyflwyno data/gwybodaeth rhifiadol cymhleth o amrywiol ffynonellau, gan ddethol ystyr priodol |
Llythrennedd Digidol |
Y gallu i ddeall a defnyddio technoleg ddigidol at ddibenion cymhleth, mewn ffordd sy'n briodol i'r gynulleidfa |
Cynllunio a Threfnu |
Y gallu i reoli eich hun a/neu bobl eraill, adnoddau ac amgylchiadau i gyrraedd nod penodol sy'n gymhleth |
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau |
Y gallu i gasglu gwybodaeth berthnasol, nodi materion allweddol, cysylltu gwybodaeth a'i chymharu, a dod i gasgliadau er mwyn datrys problemau cymhleth |
Creadigrwydd ac Arloesi |
Y gallu i gynhyrchu syniadau cymhleth gwreiddiol a thrawsnewid syniadau mewn ffordd ymarferol i ddatblygu cynnyrch, gwasanaeth, proses, system neu ryngweithio cymdeithasol newydd neu well |
Effeithiolrwydd Personol |
Y gallu i addasu eich sgiliau a'ch priodoleddau i sicrhau canlyniadau o safon uchel. Addasu eich ymddygiad ar gyfer tasgau, sefyllfaoedd ac unigolion. |
Mae'r cymhwyster Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru Uwch yn uchel eu parch gan Brifysgolion. Nid yn unig y mae'r Dystysgrif Her Sgiliau wedi'i chynnwys mewn llawer o gynigion ond mae'r sgiliau a ddatblygir yn cefnogi dysgwyr yn llawn i addasu i astudiaeth Addysg Uwch.
Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.