TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) - Dysgu o 2026
Dysgu: Medi 2026
Codau Cyfeirio
Bwriad y cymhwyster TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) yw:
- esbonio ffenomenau yn wyddonol i ddangos sut mae'r byd yn gweithio
- adeiladu a gwerthuso dyluniadau ar gyfer ymholiadau gwyddonol a dehongli data a thystiolaeth wyddonol yn feirniadol
- ymchwilio, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth wyddonol i wneud penderfyniadau gwybodus.
Bydd y cymhwyster TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud y canlynol:
- Cefnogi datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i ddysgwyr ymgysylltu â'r canlynol:
- chwilfrydedd – mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau
- pethau byw – mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi
- mater – mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau
- grymoedd – mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd.
- Cefnogi egwyddorion cynnydd drwy wneud y canlynol:
- datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau gwyddonol
- defnyddio, cymhwyso a gwerthuso sgiliau ymholi gwyddonol
- dod yn fwy effeithiol fel dysgwr, er mwyn datrys problemau gwyddonol yn fwy annibynnol
- gwneud cysylltiadau ac archwilio cyd-destunau newydd, gan ystyried effeithiau gweithredoedd gwyddonol.
Mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn datblygu adnoddau i gefnogi'r testunau newydd sy'n cael eu cyflwyno o fewn y cymhwyster Gwneud-i-Gymru Newydd hwn. Mae'r rhestr o adnoddau a fydd ar gael ar gyfer y pwnc hwn isod.
Bioleg | |
Uned 1 | 1.1 Adeiledd a swyddogaeth celloedd: Beth yw organebau ac o beth maen nhw'n cael eu gwneud? |
1.2 Metaboledd: Beth sy'n cadw celloedd yn fyw? | |
1.3 Systemau: Sut mae organau yn gweithio gyda'i gilydd ac yn aros yn iach? | |
1.4 Rhyngddibyniaeth organebau: Sut mae organebau yn byw gyda'i gilydd? | |
Uned 4 | 4.1 Parhad bywyd – Beth yw effeithiau gweithgarwch dynol ar ecosystemau? |
4.2 – Etifeddiad: Sut mae organebau'n tyfu ac yn atgynhyrchu? | |
4.3 Esblygiad: Pam mae organebau mor wahanol? | |
4.4 Systemau rheoli: Sut mae organebau yn adweithio i’w hamgylchedd? | |
4.5 Iechyd Dynol: Sut mae organebau yn aros yn iach? | |
Cemeg | |
Uned 2 | 2.1 Mater: O beth mae defnyddiau'n cael eu gwneud? |
2.2 Adeiledd a Chyfnodedd Electronau: Ydyn ni'n gallu rhagfynegi sut mae electronau yn ymddwyn? | |
2.3 Cyfraddau adwaith: Ydyn ni'n gallu rheoli pa mor gyflym mae adwaith yn digwydd | |
2.4 Adnoddau hanfodol y Ddaear: Sut gallwn ni ddiogelu'r blaned ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol? | |
Uned 5 | 5.1 Bondio, Strwythur: Pam mae defnyddiau yn ymddwyn mor wahanol? |
5.2 Adweithiau Asidau: Sut gallwn ni wneud ac adnabod halwynau? | |
5.3 Metelau ac echdynnu metelau: Sut ydyn ni'n cael yr adnoddau cemegol sydd eu hangen i yrru technolegau newydd? | |
5.4 Olew crai: Pam mae hwn yn adnodd hanfodol o hyd? | |
Ffiseg | |
Uned 3 | 3.1 Mudiant – Sut mae gwrthrychau'n symud? |
3.2 Adnoddau ac Effeithlonrwydd Egni – Trydan ar gyfer y dyfodol | |
3.3 Grymoedd – Sut mae grymoedd yn rhyngweithio â gwrthrychau? | |
3.4 Tonnau – Beth yw tonnau? | |
3.5 Ein Bydysawd – Rhyfeddodau'r bydysawd | |
Uned 6 | 6.1 Ymbelydredd – Beth yw ymbelydredd a sut rydyn ni'n ei ddefnyddio? |
6.2 Tonnau – Sut rydyn ni'n defnyddio'r tonnau o'n cwmpas? | |
6.3 Trydan – Archwilio cylchedau trydan a sut maen nhw'n cael eu defnyddio | |
6.4 Egni – Trosglwyddo egni yn effeithlon | |
6.5 Electromagneteg – Sut mae electromagneteg yn cael ei ddefnyddio? | |
6.6 Y Bydysawd – beth sydd allan yna? | |
Uned 7 | 7.1 Sgiliau ymholi gwyddonol |
7.2 Mathemateg mewn gwyddoniaeth | |
7.3 Geirfa wyddonol |
Swyddog Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
Swyddog Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
Swyddog Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
Swyddog Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.