TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd) - Dysgu o 2025
Mae'r cymhwyster TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl) yn cael ei lunio ar sail y pum hyfedredd rhyngddibynnol sy'n ffurfio egwyddorion cynnydd Cwricwlwn Cymru mewn perthynas â'r Maes Mathemateg a Rhifedd. Bydd y cymhwyster yn:
- darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu dealltwriaeth gysyniadol o gysyniadau a syniadau mathemategol
- darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o ystod eang o iaith fathemategol a defnyddio symbolau i ddangos y cyfathrebu hyn
- caniatáu i ddysgwyr ddangos eu bod yn gallu defnyddio a chymhwyso sgiliau mathemategol a rhifiadol yn ddidrafferth ac yn fanwl gywir
- cefnogi dysgwyr i ddatblygu a chymhwyso rhesymu sy'n rhesymegol wrth gyfiawnhau a phrofi perthnasoedd rhwng cysyniadau
- darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddangos cymhwysedd strategol yn annibynnol pan fyddant yn defnyddio syniadau mathemategol i ddatrys problemau.
Bydd cynnwys y cymhwyster TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl) yn seiliedig ar y cysyniadau mathemategol a rhifiadol canlynol sy'n ffurfio datganiadau o'r hyn sy'n bwysig y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer y Maes Mathemateg a Rhifedd:
- Rhif
- Algebra
- Geometreg a mesurau
- Ystadegaeth a thebygolrwydd
Caiff agweddau ar bob cysyniad eu harchwilio ym mhob uned o'r cymhwyster. Mae hyn yn cefnogi'r datganiad 'mae gwahanol feysydd mathemateg yn hynod o ryng-gysylltiedig a dibynnol ar ei gilydd' sydd wedi'i gynnwys yn yr ystyriaethau penodol ar gyfer y Maes hwn. Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi cysylltiadau allweddol gyda Meysydd eraill o'r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys datblygu llythrennedd ariannol dysgwyr i gefnogi llesiant dysgwyr.
Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM
Darganfyddwch bopeth sydd gan ein gwefan newydd Adnoddau Digidol i'w gynnig >


Gor
Medi
Rhag