TGAU Dawns - Dysgu o 2026
Dysgu: Medi 2026
Codau Cyfeirio
Bydd y cymhwyster TGAU Dawns yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud y canlynol:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
- archwilio eu gwaith creadigol eu hunain a gwaith eraill, mynd i’r afael â genres, technegau, offer, deunyddiau ac arferion a'u galluogi i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol
- archwilio eu hetifeddiaeth ddiwylliannol eu hunain yn ogystal â rhai pobl, llefydd a chyfnodau eraill. Trwy hyn gallan nhw ddarganfod sut y gellir defnyddio’r celfyddydau mynegiannol i ffurfio a mynegi hunaniaeth bersonol, gymdeithasol a diwylliannol
- dysgu sut y gall sgiliau dadansoddi pwysig o fireinio a dadansoddi gyfrannu at eu datblygiad creadigol.
- Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
- archwilio, profi, dehongli, creu ac ymateb drwy ddawns mewn amgylchedd diogel
- gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eraill
- dysgu a mireinio gwahanol fathau o wybodaeth a sgiliau, gan gynnwys y technegau, y prosesau a'r sgiliau sydd eu hangen i greu a dehongli
- dysgu a mireinio gwahanol fathau o wybodaeth a sgiliau, gan gynnwys y technegau, y prosesau a'r sgiliau sydd eu hangen i greu a dehongli
- dangos defnydd mwy soffistigedig o sgiliau perthnasol a'r gallu i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destunau newydd.
- Cefnogi'r ystyriaethau pwnc-benodol ar gyfer y maes hwn drwy roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:
- archwilio, ymateb i ysgogiadau a chreu ac adfyfyrio ar eu gwaith eu hunain. Ar yr un pryd, byddant hefyd yn ymwneud â phrofiadau sy'n gyfoethog ac yn ddilys
- meithrin dealltwriaeth o berfformio, coreograffi a gwerthfawrogiad ar draws ystod o arddulliau.
Mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn datblygu adnoddau i gefnogi'r testunau newydd sy'n cael eu cyflwyno o fewn y cymhwyster Gwneud-i-Gymru Newydd hwn. Mae'r rhestr o adnoddau a fydd ar gael ar gyfer y pwnc hwn isod.
Gwerthfawrogiad dawns |
Rygbi: Annwyl (Dear) |
Mad Hatters Tea Party | |
Fagin's Twist | |
Pinocchio | |
Dust | |
Ripple | |
Henge |
Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.