TGAU Technoleg Ddigidol
Haf 2027 fydd y cyfle olaf i asesu'r cymhwyster hwn yn llawn. Bydd cyfle i ailsefyll yr arholiadau ym mis Ionawr 2028, os bydd galw am hynny.
O fis Medi 2026 ymlaen, ni ddylid cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymhwyster hwn ym Mlwyddyn 10, dylid eu cofrestru ar gyfer CBAC Technoleg Ddigidol - Dysgu o 2026
Mae Adnoddau a Deunyddiau Enghreifftiol nawr ar gael ar Porth.
Mae cymhwyster TGAU CBAC mewn Technoleg Ddigidol yn gymhwyster eang sy'n galluogi dysgwyr i adeiladu ar y sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddigidol a ddefnyddir yn eu bywydau yn yr ysgol a'u bywydau bob dydd. Mae'r cymhwyster wedi'i lunio ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno dechrau ar eu taith tuag at yrfa sy'n defnyddio technolegau digidol neu symud ymlaen at raglenni dysgu lefel uwch sy'n cynnwys technolegau digidol.
Bydd y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i feithrin eu dealltwriaeth o'r amrywiaeth o systemau technoleg ddigidol a ddefnyddir yn ein cymdeithas gysylltiedig a byd-eang. Bydd hefyd yn galluogi dysgwyr i archwilio natur ddatblygol systemau technoleg ddigidol a sut y gellir defnyddio'r systemau hyn mewn ffordd gynhyrchiol, greadigol a diogel.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.


Mai
Awst