Lefel Mynediad, Lefel 1 a Lefel 2: Cynaliadwyedd yn ei Gyd-Destun
Dysgu: Ebr 2025
Codau Cyfeirio
Mae CBAC yn cydweithio â swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i greu llwybr addysg sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd o Mynediad 2 i Lefel 3.
Mae'r gyfres arloesol hon o gymwysterau'n dilyn ymagwedd gyfannol at gynaliadwyedd, gyda'r nod o wella llesiant economaidd, ymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Bydd dysgwyr yn gwella'u dealltwriaeth o gynaliadwyedd gan hefyd ddatblygu gwybodaeth, sgiliau ac agweddau a fydd yn eu paratoi nhw at swyddi 'sero net' y dyfodol.
Mae'r cymwysterau hyn yn addas i'w cyflwyno ar draws amrywiaeth eang o leoliadau gan gynnwys ysgolion, addysg bellach a'r byd gwaith.
- Cynaliadwyedd ar Waith - Mynediad 2 - Lefel 2
- Cynaliadwyedd yn ei gyd-destun - Mynediad 2 - Lefel 2
- Cynaliadwyedd yn Ymarferol (Ysgogwyr Newid y Dyfodol) - Lefel 2

Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.