Lefel 3 Tystysgrif Gymhwysol/Tystysgrif Estynedig mewn Twristiaeth
Byddwn yn diwygio ein cymhwyster Lefel 3 Twristiaeth i sicrhau ei fod yn bodloni Meini Prawf Cymeradwyo Teithio a Thwristiaeth Cymwysterau Cymru. Ymunwch â'n Grŵp Cynghori
Ar gael i ganolfannau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn unig.
Mae briff Uned 2 yn newid bob blwyddyn. Mae modd ei lawrlwytho o Porth. Mae'r pecyn hwn ar gael o'r dydd Gwener cyntaf ym mis Mawrth.
Mae briffiau Asesiad Di-arholiad Unedau 4, 6 ac 8 yn newid bob blwyddyn. Mae modd eu lawrlwytho o Porth gan ddefnyddio'r dewis pwnc 'Travel & Tourism'. Mae'r pecynnau hyn yn cael eu rhyddhau ar y dydd Llun cyntaf ym mis Medi.
Mae ein cymhwysterau newydd mewn Twristiaeth yn cefnogi dysgwyr i ddeall y diwydiant twristiaeth lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac yn eu galluogi i ddatblygu amrediad eang o sgiliau a rhinweddau sydd eu hangen ar gyfery diwydiant.

