Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol - Dysgu o 2026
Bydd y cymhwyster Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol yn atgyfnerthu'r sgiliau mathemategol allweddol y bydd dysgwyr wedi'u datblygu drwy ymgymryd â'r cymhwyster TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd), yn ogystal â galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o gysyniadau newydd a dulliau mathemategol.
Bydd y cymhwyster yn cefnogi'r pum hyfedredd rhyngddibynnol sy'n ffurfio egwyddorion cynnydd y Cwricwlwm i Gymru mewn perthynas â'r Maes Mathemateg a Rhifedd drwy helpu dysgwyr i wneud y canlynol: datblygu sgiliau meddwl, rhesymu, cyfathrebu, cymhwyso a metawybyddol dyfnach drwy ddull mathemategol o ddatrys problemau
- ffurfio ac atgyfnerthu sgiliau mathemategol allweddol
- datblygu dealltwriaeth o ddulliau mathemategol a chysyniadau newydd a'r gallu i'w cymhwyso
- bod yn greadigol wrth gymhwyso mathemateg i broblemau heriol ac i sefyllfaoedd newydd a haniaethol
- rhesymu yn fathemategol, tynnu casgliadau a rhesymiadau, dod i gasgliadau ac ymdrin â phrawf mathemategol ffurfiol
- datblygu ymwybyddiaeth o natur gyfannol mathemateg
- cysylltu syniadau o fewn mathemateg a rhwng mathemateg a phynciau eraill.
Mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn datblygu adnoddau i gefnogi'r testunau newydd sy'n cael eu cyflwyno o fewn y cymhwyster Gwneud-i-Gymru Newydd hwn. Mae'r rhestr o adnoddau a fydd ar gael ar gyfer y pwnc hwn isod.
Algebra | Trin algebraidd |
Ffwythiannau cwadratig | |
Dilyniannau a chyfresi | |
Calcwlws | Differu |
Integreiddio | |
Geometreg | Geometreg gyfesurynnol ym mhlân (x, y) |
Trigonometreg | |
Ystadegaeth | Tebygolrwydd |
Cynrychioli a dehongli data | |
Dosraniadau ystadegol | |
Mecaneg | Mesurau Fector a Sgalar |
Grymoedd | |
Mudiant unionlin | |
Graffiau | Graffiau a rhwydweithiau |
Algorithmau ac algorithmau ar rwydweithiau | |
Dadansoddiad llwybr critigol | |
Rhaglennu llinellol |
